nag i'm Cydwladwyr) ni fynnwn, er dim, fyned iddi fyth, ond ar fy Nhrô; a gwell a fyddai genyf fyw ymmysg Cythreuliaid Ceredigion, gyda Llywelyn, er gwaethed eu moesau, nag ym Môn. Ond a fynno Duw a fydd.—Nid yw awyr y Wlad yma ddim yn dygymmod a'r Awen cystal ag Awyr Gwlad y Mwythig; etto, hi wasanaetha, 'rwyf yn deall, canys mi fum yn ddiweddar yn profi peth arni, i edrych a oedd wedi rhydu ai peidio. Mi gefais ganddi yn rhywsut rygnu imi ryw lun ar Briodasgerdd i'ch Nith, Mrs. Elin Morris, yr hon. a yrrais i Allt Fadawg gyda Chywydd y Farn. Tra phrysur wyf yr wythnos yma yn darparu Pregethau erbyn y Nadolig, ac heblaw hynny 'rwyf ar fedr mynd ar ferch i'r Eglwys i'w bedyddio'n gyhoedd Ddy'gwyl Domas ac onid è chwi gawsech y Briodasgerdd y tro yma; ond chwi a'i cewch y tro nesaf yn ddisomiant. Ydd wyf yn disgwyl clywed o Allt Fadawg cyn y bo hir, ac yno mi a gâf wybod a dal y Briodasgerdd i'w dangos ai peidio. Nid wyf yn ammau na bydd Cywydd y Farn gyd â chwi o flaen hwn, os tybia Llewelyn y tal ei yrru. Pendrist iawn ydwyf yn y fann yma, o eisiau Llyfrau; fe orfu arnaf brynnu Homer a benthycca Virgil i gasglu Nodau. I delivered what was inclosed, in your last save one, to Tom Edwards of the London City in Red Cross Street Liverpool & rec'd of him 1s 5d, which shall be dispos'd of as you shall order, As I know not what the inclos'd contain'd I ask'd no more. questions about it. I hope you have met with a proper Person for your Secratary, & that the Rules, &c of your (our I should say) Society will soon be made publick. I intend you should hear from me again soon after Christmas, if God give me life and health, I remain in the mean time Dear Sir your most obliged humble Servant
P.S. In your last, you ask'd what was the Welsh for a Corresponding Member. Pa beth a ddywedwch am—Aelod anghyttrig.