Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/83

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gywreiniach. Ni yrrais mo hwn i Allt Fadawg etto, ond mi ai gyrraf pan gaffwyf amser, ac yno mi gâf wybod beth a dalo. Chwi ellwch weled na bydd mo'r lle i'r Gwynn nag i'r Hir[1] i achwyn bod gormod o Lusga Sain, yn hwn, a bychan o'r Groes a'r Draws oblegid ni's gwn fod ynddo un Gynghanedd ond y Groes Rywiog yn unig, os yw hono well nag eraill, eithr nid wyf fi'n medru canfod Gorchest yn y byd ar un Gynghanedd mwy na'r llall; yr orau yn fy nhyb i, yw'r hon a ddelo Naturiolaf.—I have hardly room to tell you how much I am yours

GRONWY DDU GYNT O FON.

Dear Sir I must beg of you to excuse the inaccuracy & bad writing that you meet with, impute it to the very great hurry that I am in. A line at your leisure will be exceedingly agreeable.

  1. Wynne of Llangynhafal & Evans of Llanfair.