honynt oedd piau Breuddwyd Gronw? Eich atteb yn y nesa, da chithau. Nodau ar y Briodasgerdd uchod—"Llemmynt," &c Alluding to the old custom of dancing a Morris—dance at a wedding—O Bott llawn &c. The common health on these. occasions is, "Luck & a Lad."—"A fedro, rhoed trwy Fodrwy" &c. Mae'n debyg y gwyddoch hynny o gast, a pha ddefnydd i wneud o'r deisen a dyner trwy'r Fodrwy.—
"Y Nôs wrth daflu'r Hosan, Cais glol y Llancesi glân." Mae'n gyffelyb y gwyddoch hyn hefyd, ond rhag na's gwyddoch fel hyn y mae trin y Dreth; sef, pan dděl y Nos, y Briodferch å i'w gwely, a chryn gant o Fenywaid gyd â'i chynffon, yn esgus law—forwynion, i'w helpu i ymddiosg; a phan dynno ei hosan, hi ai teifl dros ei hysgwydd, ac ar bwy bynnag y disgynno, honno gaiff Wr gynta. Probatum est. Ac felly yn y ddarn deisen, os choir hi dan y gobennydd, a breuddwydio, pwy bynnag a welir 'ped fai yr Arglwydd Bwclai) hwnnw a gai er gwaetha'r gwynt. Probatum est etto. Dyma ffordd Lloegr; ni wn i a ydyw'r inffordd Ynghymru ai peidio, ac nis gwaeth genyf.