Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/87

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 25.

At RICHARD MORRIS.


WALTON, Ionr 24in, 1754.

Y CAREDIG GYDWLADWR,

ECHDOE y derbyniais yr eiddoch, o'r namyn un ugeinfed o'r Mis sy'n cerdded. Drwg iawn gennyf glywed ynghylch y Peswch brwnt sy'n eich blino, a meddwl yr wyf nad oes nemmawr o'r Gwyr a faccer yn y wlad a all oddef mygfeydd gwenwyneg y Ddinas fawr, fwrllwch yna. Mi adwaen lawer a gollasant eu hiechyd yna mewn llai nag ugeinfed ran yr amser y buoch chwi'n preswylio ynddi. Duw piau llywodraethu a rhannu'r bywyd a'r iechyd; ac os mynnai Efe, llwyr y dylai Gymru erfyn arno ganiadhau ichwi yn hir bob un o'r ddau; oblegid pe angen, nis gwn pa beth a ddelai o'n Cymdeithas na'n Hiaith ychwaith; am ein Cennhedl, honno a ymdarawai trosti ei hun, gan ddirywio ac ymollwng yn ei chrynswth i fod yn un a chennedl fawr yr Eingl. Ac yno y gwirud Geiriau'n drwg Ewyllyswyr, sef na pharaai ein Hiaith oddiar 100 mlynedd ar wyneb y Ddaiar. Telid Duw iddynt am hynawsed eu Darogan! Dyma fy hên Athraw a'm Cydwladwr Sion Dafydd Rhys wedi dyfod i'm dwylaw, 'rhwn a roisai Mr. Ellis o Gaergybi imi er's naw Mis; ac och! fi! mae'n dywedyd fod bai anafus yn y Ganiad a yrrais i chwi ar y 24 Mesur. Yn y Tawddgyrch cadwynog y mae'r bai, oblegid fe ddylasai'r sillaf gyntaf oll o honaw fod yn un ar Brif Odl; sef yw (O'ch) y Brifodl. Ac am hynny (cyn y danghosoch i'r Gymdeithas) dymunaf arnoch ei ddiwigiaw fal y canlyn; sef, yn lle "Gu flaenoriaid gyflawn eiriol-yn hoff uno! iawn y ffynnoch, dywedwch "O'ch arfeddyd, &c. &c. ac yno nid oes mor anaf na bai arno. Ac hefyd os mynnwch, chwi ellwch roi yn y Cadwyn ferr "Gwymp, &c. &c. yn lle "a'r Dilysion Wyr da lesol," a thybio 'rwyf fod hynny'n well. Nis medraf weithion feddwl am un bai arall, a gobeithio 'ddwyf nad oes yr un ynddi. Dyma i chwi Ganiad arall ar y 24 Mesur a wnaethym wedi'ch un chwi, a thybio'r wyf ei bod yn beth cywreiniach. Marwnad yw i Mr. John Owen o'r Plâs yn Gheidio yn Llŷn, hên Gyfaill anwyl Gennyf fi gynt,