leddig, (sef yw hyny camweddawg anfeidrol,) o'r gwaethaf ar a aned erioed o wraig " fod? ai tybaid mai Ysgottiaid oeddynt? Os ê, cennad i'm crogi, onid yw Douglas fy hen feistr yn un o'u heppil hwy, neu'n tarddu o'r un grifft? Nid oes bosibl fod yr hen ŵr mor giaidd a galw pobl Gwynedd yn ddynionach dieithr gogleddig, ac yntef ei hun yn ŵr o Ogledd Môn, y lle gogleddaf agos yn Nghymru. 'Rwyf fi yr un feddwl ag yntef am y rhai a wadant neu a ddirmygant yr iaith Gymraeg, sef nad y'nt ond cachadyddion a brynteion eu gwlad, ac o'm plegid i cachadyddion a phibadyddion y cant hwy fod, ie, a chrachyddion a chachaduriaid, a chwcwalltiaid, os mynir; ie, ac os gwaeth hyny, mi glywn arnaf eu galw yn anifail cors, yr enw mwyaf tafod-ddrwg a glywais erioed o ben fy mam. Digrif eich dywediad nad oes gan y Teifisiaid ddim bodiau. Gwych a fyddai fod bawd-fys rhyw hanner cant o'r brynteion dihiraf o naddynt yn nhwll y chwil, a gwrth-hoel den arno, tros dro. Mi glywaf fyned Cywydd y Farn i Lundain, ond mae'n debyg na ddaw byth oddiyno, oblegid ni phrintir byth mo'no ei hun, ac nid wyf yn deall fod ganddynt etto faint yn y byd o'r pethau eraill, sef Natural Philosophy, History, &c. yn barod i'w printio gyd ag ef. Nid oes gan y Mynglwyd neb i'w helpu, ac ni ddichon iddo ef ei hunan ddyfod byth i ben ag ysgrifennu a chasglu y cwbl, ac yntau a'i ddwylaw yn llawn gwaith eisoes. Yn ol a glywaf ganddo, ni fyddai waeth gyrru pastynod i Lundain na rhai aelodau o'r Gymdeithas; pechod na b'ai ganddynt ddau neu dri o ddynion celfyddgar, a'u dwylaw yn ddidrafferth i ysgrifennu iddynt.
Now I shall have a little more time, for evening prayers are over; all the rest (excepting the Awdl) was written before, and in a very great hurry, for fear of missing this post; which you may see by the badness of the writing. Pa beth (yn rhodd) oedd Bustl y Beirdd a gânt yr Hen Dalcen Têg yn llys Maelgwn Gwynedd? A pha ham y gelwid yn Fustl y Beirdd? Ai rhyw Dduchan i'r Beirdd ydoedd? Some satire on 'em? Or challenger or defiance to them? Be so good as inform me in your next. Well, here my neighbour Whatton is just going to set out for town, and I must shut shop in spite of me. Byddwch wych. Your very humble servant,