Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bresaddfed. Pwy sy'n debyg o gael ei le fo yn y Parliament? Gadewch wybod pa beth a wnaed i'r dynionach anhappus a spoiliasant yr Ysgottyn ar Draeth y Lavan. Mae'n debyg fod y porthwys wedi ei grogi cyn hyn. Ond am y lleill, gresyn iddynt golli eu bywyd, a hwythau heb ladd neb am a glywais. Gadewch wybod hefyd pa fodd y mae'r farchnad yn myned yn y Dref yna; a phob newydd arall a dalo ei ddywedyd. Mae hi'n awr yn hir amser er pan fu'm yn Mon; ac yr wyf agos wedi bwrw fy hiraeth am dani. Etto pe cawn le wrth fy modd ynddi, mi ddeuwn iddi etto, er mwyn dysgu Cymraeg i'r plant; onide hwy fyddant cyn y bo hir yn rhy hen i ddysgu; oblegid y mae'r hynaf yn tynnu at chwe' blwydd oed, heb fedru etto un gair o Gymraeg; ac yn fy myw ni chawn gantho ddysgu; oni bai ei fod yn mysg plant Cymreig i chware; ac ni fedr ei fam ddim Cymraeg a dâl son am dano, ond tipyn a ddysgais i iddi hi. Y mae Sir y Mwythig yn llawer hyfryttach a rhattach gwlad na hon; ac mae'n lled edifar genyf ddyfod yma. Ond etto mae'r cyflog yma'n fwy o gryn swm. 'Rwyf yn cael yma yn nghylch dau ugain punt yn y flwyddyn, a llawn lonaid fy nwylaw o waith i wneuthur am danynt. Mae yma gryn farwolaeth yn ein plith. Mi fyddaf weithiau'n claddu pobl o fesur tri a phedwar yn y dydd. Dyma alwad arnaf i ymweled â'r claf y munudyn yma; felly ffarwel. Fy ngwasanaeth at fy Ewythr a Modryb; and accept of the same to yourself from, Dear Jack, Your affectionate Cousin,

GRONOW OWEN.

N.B.-Ni chyst y llythyr yma ddim i chwi, oblegid ei fod mewn ffranc. Ni feddaf yn awr yr un ychwaneg; ac onide mi a'i rhoiswn yn hwn; ac yno mi gawswn atteb yn rhad. Ond na hidia mo hyny; ni chyst yr atteb ond grôt imi; ac felly gad glywed oddi wrthych gynta galloch.

Mae fy mrawd Owen ynteu wedi priodi er ys rhwng chwech a saith o flynyddoedd, ac yn byw o hyd yn Nghroes Oswallt, yn Sir y Mwythig, a chanddo naill ai pedwar ai pump o blant. Ond ni welais i mono fo na hwythau er yn nghylch dwy flynedd a haner neu well. Byddwch wych; a gadewch glywed oddi wrthych pan gyntaf y galloch.