Tudalen:Llythyrau Goronwy Owen.djvu/95

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 28.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Ebrill 1, 1754.

DYMA hi'n well na phum wythnos er pan yrrais i Gaer Gybi; ond etto heb glywed na siw na miw oddi yna; pa beth a allai fod yr achos? yr wyf yn llwyr ofni y gorfydd arnaf roi yn y papur newydd eich bod wedi marw er ys mis o'r lleiaf; ac yno ddarparu naill ai awdl neu gywydd marwnad o goffadwriaeth barchus i'ch enw. Dacw hefyd ddau lythyr wedi myned rhyngddynt a Gallt Fadog, er ys ennyd o amser; ond (am a welaf) ni fuasai waeth gyrru Brân i geisio tir. Ai tybied ddarfod i'r tri brawd gydsynio â'u gilydd i farw bob y pen ar unwaith, o wirwaith goddef i dorri asgwrn cefn un Awen dinlesgethan, a hithau yn ddigon llibyn eisus o wrantu? Och fi, wrth sôn am yr Awen, y mae hithau wedi marw hefyd, neu o'r lleiaf ar ei marw-ysgafn, ac ni's bydd byw chwaith yn hir.—Hi a'm cywilyddiodd dros byth, gan fethu ohoni wneuthur Cywydd nag Awdl i'r Tywysog, Wyl Ddewi ddiweddaf; ond paham i mi ar yr Awen? oerfel yr hin, a noethni y wlad oerllom yma oedd ar y bai: dyna'r pethau a fagasant, a'r peswch oedd mam y pigin, a'r ddau hynny rhyngddynt a'm lladdasent yn ddifeth, oni bai borth Duw, a chyfferiau meddygon. Y mae yma farwolaeth fawr ym mysg pobl o bob oedran; tybio yr wyf o fewn y ddeufis aeth heibio na chleddais ddim llai na deugain corph; nid oes nemawr o ddiwyrnod na chleddwyf un, ac weithiau ddau, weithiau tri yn y dydd a'r cleiflon mor aml nad wyf yn cael gorphwys namyn eu gofwyaw; ac ni ddichon dyn fyth fod yn rhy ddiwyd a gofalus yn ei swydd yn y wlad yma; o herwydd fod yr offerynwyr Pabaidd yn rhy barod i ymwthio i fewn ar bob achlysur. Yr oeddwn wedi dechreu Awdl i'r Tywysog ar fesur Gwawdodyn hir, ond ni orphenais oddiar 3 neu 4 o benillion o hono, ac yn anorphen y caiff fod byth bellach. Ac felly ymlaen yr aethai, hyd ddeuddeg neu ddeunaw pennill, pe cawswn hawnt a hamdden; ond, Och fi ni chefais; am hynny hi a fethodd. Oni chaf glywed oddi wrthych yn o fuan, ni wiw i chwi ddisgwyl llythyr arall oddi yma o hyn i