Powel newydd fyned i'w gwelyau, ac eisteddai Gwen ei hunan yn y parlwr, fel pe buasai rhywbeth yn dweyd wrthi am beidio myned. Canai'r gloch. Neidiodd yr eneth at y drws, a llamodd ei chalon o lawenydd wrth weled ei brawd.
"Oh, Llewelyn!" meddai—" a ddeuaist ti'n ol? Ofnais fy mod wedi dy golli am byth;" ac aeth ato gan feddwl ei gusanu. Gwelodd ei lygaid—aroglodd ei wynt—a neidiodd oddiwrtho drachefn fel pe neidr wedi ei phigo, a llefodd,"Llewelyn Parri!—yr ydych yn feddw!"
"Paid a gwirioni, Gwen," atebai yntau. "Dim o'r fath beth; ac yr wyf yn synu at eneth gall fel tydi yn meddwl peth mor wirion. Nid wyf yn feddw!"
Syrthiodd Gwen i lewyg, a chofodd ddyfod ati ei hun goreu gallai, gyda chynhorthwy dyn meddw.
Wedi cael adferiad o'i llewyg, hi a sefydlodd ei llygaid ar yr eiddo ei brawd, yn y cyfryw ddull difrifol a cheryddol na welodd ac na theimlodd ef erioed o'r blaen mo'i fath.
"Fy mrawd!" meddai, "yr wyt wedi tori dy addewid i fy mam—yr wyt wedi dibrisio ei chais olaf yr wyt wedi darostwng dy hun—wedi pechu braidd tuhwnt i edifeirwch —ac y mae arnaf ofn dy fod yn ddyn colledig! Oh, Llewelyn, wyddost ti beth yw'r hyn a wnaethost?"
"Mae'n debyg y gwn i," oedd yr ateb sarug. "Mi fu'm yn edrych tipyn o fy nghwmpas, gan fwynhau fy hun am dridiau; a phwy a faidd fy ngalw i gyfrif?"
Wylai'r eneth yn chwerw dost.
"Am ba beth yr wyt ti'n crio, Gwen?" gofynai'r meddwyn. "Fu'm i ddim yn meddwi fwy na thithau; ac os clywi di rywun yn dweyd hyny, rhaid i ti beidio 'i goelio. Yr wyf gyn sobred a sant."
"Oh, Llewelyn! Llewelyn! Ni feddyliais erioed y buasit yn troi allan fel hyn! Y mae fy nghysur wedi ei ddinystrio am byth. O, fy mam? cawn i ddyfod atoch chwi!"
Cychwynodd Llewelyn i fyned ati, i afael yn ei llaw, ond wrth fyned syrthiodd ar draws y gadair, ar ei ben i'r llawr; tarawodd yn ei godwm yn erbyn y bwrdd crwn, ar yr hwn yr oedd amryw lestri, a thaflwyd y rhein'y i lawr nes oeddynt yn ddrylliau man. Tybiodd Mr. Powel, wrth glywed y trwst, fod dynion drwg yn y tŷ—tarawodd ei lodrau am dano, ac aeth i lawr. Y peth cyntaf a welodd oedd, Llewelyn yn mesur y llawr, ac yn tyngu yn enbyd am na fedrai godi. Enynwyd tymher wyllt yr hen gyfreithiwr i'w heithafion—cyffröwyd ei holl ddigofaint—ysgyrnygai