ei ddannedd, a chauai ei ddwrn. Yr oedd yn dda i'r bachgen meddw fod ei chwaer yn yr ystafell ar y pryd, neu fuasai dim ymddiried nad ymosodasai ei warcheidwad arno'n greulon.
Ond sefyll yn fud uwch ei ben a wnaeth yr hen ŵr. O'r diwedd, gwyrodd i gydio gafael yn ei goler. Cafodd olwg llawn ar ei wyneb hagr, meddw. Ailgynhyrfwyd ei ysbryd —dechreuodd lusgo'r llanc at y drws, a gwaith ychydig fynydau oedd ei daflu allan i'r heol, gyda rhoi rhybudd iddo am beidio byth tywyllu'r drws hwnw drachefn.
Pan oedd yn myned d i gloi'r drws ar ei ol, cydiodd Gwen afael yn ei fraich, a gofynodd iddo,
"Mr. Powel! nid ydych yn ystyried beth yr ydych yn ei wneuthur! Wyddoch chwi ddim mai fy mrawd yw?" "Gwn! A gwn hefyd nad yw'n deilwng o gael ei alw'n frawd i chwi!"
"Ond, fedraf fi ddim goddef edrych arno'n cael ei daflu allan, fel ci, i'r gwlaw a'r storm, i gymeryd ei siawns. Pa mor anfad bynag yw ei drosedd, yr wyf fi dan rwymau i'w garu; ac os oes modd ei achub, fy nyledswydd yw ceisio gwneyd!"
"Ei achub! Nid yw yn werth y drafferth. Os gallodd dori yr amod ddifrifolaf ag y gallasai dyn ei gwneyd, mewn gan lleied o amser, nid oes dim a all ei atal yn awr. Y mae eich cariad yn hollol ofer. Ddylech chwi ddim ei garu! Nid yw'n deilwng o hyd yn oed maddeuant!" Clôdd y drws, gan dynu Gwen at y tân; ac yna aeth i'w wely, ar ol dweyd wrthi am beidio meddwl mwy am y peth.
Cymerodd hithau ganwyllbren, a chychwynodd i'w gwely, gan dybied, fel Mr. Powel, nad oedd yr un a allai wneyd y fath watwaredd o addewid mor bwysig, yn haeddu ei chydymdeimlad na'i chariad; a bwriadai geisio anghofio'r fath adyn diymddiried am byth.
Ond fe 'i tarawyd megis gan daranfollt, gan rym geiriau diweddaf ei mam—"cerwch y naill y llall—byddwch ffyddlon ich gilydd!" Syrthiodd y ganwyllbren o'i llaw, a safai hithau yn y lle am fynyd fel delw. Yna dywedodd wrthi ei hun,
"Ha! y mae genyf finau amod i'w chadw cystal ag yntau; ac os na chadwaf hi, byddaf yn anffyddlon. Ond mi a'i cyflawnaf. Ni waeth pa mor isel mewn pechod yr â fy mrawd, bydd ei chwaer yn ffyddlon iddo. Glynaf wrtho trwy bob peth—maddeuaf iddo—caraf, a chyflawnaf ddyledswyddau eithaf cariad chwaer!"