Gweddïodd am nerth i gyflawni ei dyledswydd, ac am arweiniad ac hyfforddiant pa fodd i fyned yn mlaen. Mewn gweddi, fe dywynodd pelydr o gysur i'w henaid cyfododd oddi ar ei gliniau yn grêf ei ffydd, ac yn ymroddgar ei meddwl.
Aeth i'w gwely, gan benderfynu gweithredu ar ran ei brawd bore dranoeth.
PENNOD XIII.
TORODD y wawr. Yr oedd y gwynt wedi gostegu a'r gwlaw wedi peidio. Cyfododd Gwen o'i gwely, ac yr oedd i lawr bron gyn gynted a'r forwyn. Cymerodd damaid o fara ac ymenyn, gan brysuro i fyned allan mewn ymchwiliad am ei brawd.
Cerddodd yr eneth yn ol ac yn mlaen, i lawr ac i fyny, ar hyd a lled y y dref, am oriau; ond ni welai ni wrthddrych ei hymchwiliad yn un lle. Cyfarfyddodd â rhai o'i hen gwmpeini fwy nag unwaith, y rhai a edrychent arni â golwg gellweirus, ac a chwarddent yn eu llewis wrth ddyfalu rhyngddynt a'u gilydd beth oedd ei hamcan.
Gydag yspryd isel ac aelodau lluddedig, bu gorfod iddi ddychwelyd i dŷ Mr. Powel gyda'r nos, heb gael hyd i'w brawd. Ceryddodd ei gwarcheidwad hi am fod mor ffôl; ond ystyriai hi o hyd na wnaeth ddim mwy na 'i gwir ddyledswydd.
Bore dranoeth, amser boreufwyd, dywedodd Mr. Powel wrth Gwen,
"Sut yr ydych yn ymdeimlo heddyw, 'ngeneth i, ar ol eich lludded mawr trwy'r dydd ddoe?"
"Cystal a'r disgwyliad, diolch i chwi," atebai Gwen.
"Pe baech yn dod o hyd i Lewelyn, pa beth a wnaech wedyn?" Gofynai yntau drachefn. "Gwyddoch fy mod wedi dweyd na chai dywyllu drws y tŷ yma ond hyny."
"Ymddiried i Ragluniaeth—dyna gymaint sydd genyf i'w wneyd, os ydych chwi'n bwriadu dal at eich bygythiad."
"Wel, rhag poeni dim ychwaneg ar eich meddwl tyner, Gwen, efallai fod yn well i mi eich hysbysu ddarfod i mi gael llythyr heddyw'r bore, oddi wrth eich brawd, ac fod y llythyr hwnw wedi siglo tipyn ar fy mhenderfyniad blaenorol. Er fod rhai pethau ynddo ag y buasai'n llawn