ddyfod i weled yr anghenrheidrwydd am i mi roddi fy hun i un dyn byw, heblaw cadw fy hun yn ffyddlon i fy mrawd."
"Oh, Gwen!" meddai Walter, gan edrych yn ei gwyneb gyda'r difrifoldeb mwyaf, " y mae fy mywyd hyd yn hyn wedi bod yn un go ddedwydd, o herwydd ei fod yn cael ei felysu â'r gobaith o'ch cael chwi yn wraig i mi mewn adeg ddyfodol. Ond os wyf yn awr i ddeall fod y gobaith hwnw wedi ei adeiladu ar sylfaen gau, fe fydd fy oes rhagllaw yn un cyfnod o annedwyddwch diswyn! Gwen—fy anwyl Wen—gwnewch addaw cadw eich hun yn bur i mi, a bod, cyn pen ychydig amser eto, yn brïod fy mynwes!"
"Y mae tegwch ac uniondeb yn fy ngorfodi i ddweyd yn blaen nas gallaf addaw hyny, syr. Yr wyf yn teimlo fy hun yn rhy ieuanc i wneyd addewid o'r fath—nid wyf ond geneth eto; a phe buaswn yn hŷn, y mae arnaf ofn na—na
""Fedrech chwi ddim rhoddi eich hunan i mi? Ai dyna'r hyn a ddymunech chwi ei ddweyd? Ond peidiwch a dweyd hyny, ac felly rhoi dyrnod marwol i obeithion melusaf fy mywyd boreuol. A fedrwch chwi fod mor greulon a thori'r galon sydd wedi bod yn curo am flynyddoedd mewn teimladau cynhes atoch chwi? A fedrwch chwi daflu bustl chwerwder i'r enaid na ŵyr beth yw mynyd o ddedwyddwch ond mewn breuddwydio am yr adeg y byddai i Walter a'i Wen gael eu huno yn nghyd? Pe buaswn yn ddyeithr hollol i chwi, nis gallaswn ddysgwyl dim yn amgen ar eich llaw; ond wedi i ni fod yn gydnabyddus â'n gilydd am gyhyd o amser—wedi i ni gael manteision i brofi tymherau'r naill y llall, chwaeth a thueddiadau ein gilydd hefyd a chael eu bod yn perffaith gydweddu—yr wyf yn hyderu nas gallwch wrthod addaw bod yn wraig i mi—eich ffyddlon Walter!"
"Nis gallaf fod yn wraig i chwi, Walter, a hyny o herwydd y rheswm plaen nad ydwyf—nas gallaf—eich caru. Heblaw hyny, yr ydym ein dau yn ddigon ieuanc gellwch chwi gyfarfod â chyflawnder o foneddigesau hawddgarach na mi, y rhai a fyddant yn alluog i'ch gwneyd yn ddedwyddach nag y gallwn i byth—boneddigesau yn meddu mwy o brydferthwch a chyfoeth,"
"Cyfoeth! Ai tybied yr ydych fy mod yn edrych am hwnw? Diolch i Ragluniaeth, y mae genyf ddigon o hwnw fy hunan.'ni' ddywedais hyny i chwi hyd yn hyn, rhag ofn y buasech yn camgymeryd fy amcan, trwy feddwl fy mod yn ceisio eich rhwydo â rhwyd aur. Ond waeth i