"Yr wyf yn dra diolchgar i chwi, "syr, ," meddai Llewelyn.
Y mae genyf yr ymddiried llwyraf yn eich ffyddlondeb a'ch callineb. Nid oes arnaf yr un brys am gymeryd meddiant o fy mhethau, o herwydd fy mod yn berffaith sicr y bydd fy eiddo'n fwy diogel yn eich llaw chwi na than fy ngofal fy hun. Ond y mae un peth ag y dymunwn ofyn eich barn arno."
"Beth yw? Os bydd fy marn o ryw fudd i ti, yr wyf yn barod i'w rhoddi."
"Wel, syr, yr wyf wedi ffurfio cysylltiad carwriaethol â genethig o Sir Fon; ac yn bwriadu, cyn bo hir iawn, cynyg fy hunan yn ŵr iddi."
Dechreuai llygaid yr hen foneddwr aflonyddu. Torodd ar siarad Llewelyn trwy ddywedyd,
"Gobeithio dy fod wedi dal dy lygaid yn ddigon uchel, a dewis rhywun o sefyllfa cystal, o leiaf, a thi dy hun."
"A dweyd y gwir," ebe Llewelyn, "ni feddyliais am fynyd am ei sefyllfa—cymaint ag a effeithiodd arnaf fi oedd gwyleidd—dra, lledneisrwydd, hawddgarwch, talent, a challineb yr eneth."
"Ai nid yw hi yn gyfoethog?"
"Nac ydyw! Y mae ei rhinwedd yn ddigon i orbwyso pob cyfoeth."
"Pw! mae rhyw syniadau rhamantaidd fel yna yn eithaf i wneyd i fynu garictor mewn ffughanes; ond thalant hwy ddim mewn bywyd gwirioneddol. Ni wiw i ti feddwl am ymgysylltu â neb îs na thi dy hun!"
"Nis gallaf feddwl am ymgysylltu â neb heblaw Morfudd Jones," ebe Llewelyn.
"Wel, wn i ddim byd am yr eneth," meddai Mr. Powel; "ond yr wyf yn dweyd wrthyt yn blaen, os bydd i ti briodi un ddynes fyw heb fod ganddi swllt i'w roi yn mhen pob swllt o'th eiddo dy hun, y bydd i ti wneyd hyny dan boen derbyn fy ngwg a fy anghymeradwyaeth i. Ond, digon tebyg nad yw hyny o bwys yn y byd genyt yn awr, pan yr wyt yn feistr arnat dy hun."
"Na—yr ydych yn gwneyd cam â mi, fy anwyl dad. Ni's gallaf byth eich galw'n ddim llai na thad, canys buoch y cyfryw i mi a fy anwyl, unig chwar. Yr wyf yn foddlon i ufuddhau i chwi yn mhob peth rhesymol; ond mewn pwnc fel hyn, ar yr hwn y dibyna dedwyddwch neu annedwyddwch fy oes ddyfodol, yr wyf yn meddwl na ddylwn ufuddhau i chwi ar draul gwneyd cam â fy nghydwybod fy hun; ac y mae honno yn dweyd wrthyf mai Morfudd Jones a ddylai fod fy ngwraig. Maddeuwch i mi, syr, am ddweyd fy meddwl mor blaen, ond yr wyf yn