Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/119

Gwirwyd y dudalen hon

penderfynu gwneyd priod o'r ferch yma, yr hon yr wyf yn ei charu â'r cariad mwyaf diffuant a diledryw."

"Plaen iawn yn wir! Ond pe buasai genyf y gradd lleiaf o awdurdod drosot, mi a'i harferaswn yn awr i dy rwystro i daflu dy hun mor ynfyd i afael gwaradwydd. Y mae'n gywilydd i ti feddwl priodi neb salach na thi dy hun."

"Ond nid yw Morfudd yn salach na mi mewn dim, ond mewn cyfoeth bydol; a pha beth yw hwnw i'w gydmaru a chyfoeth meddyliol ac eneidiol?"

Aeth y ddau yn mlaen i ddadleu yn y dull hwn am enyd, nes o'r diwedd i gweryl gyfodi rhyngddynt. Yn mhoethder y ffrae, agorodd Mr. Powel ei ysgrifgist, tynodd allan fwndel o bapurau, a thaflodd hwy at Llewelyn, gan ddweyd mewn llais uchel a chythruddedig,—

"Hwda'r carp anniolchgar!—dyna gymaint ag a roddwyd dan fy ngofal i perthynol i ti; gwna dy botes hefo nhw; a chymer ofal na welir mo honot byth yn gwynebu'r tŷ yma eto. Cefaist dy droi oddi yma unwaith o'r blaen; ond fe faddeuais y trosedd a gyflawnaist y pryd hwnw; ond pe bai fy maddeuant fy hun gan y Nefoedd, yn dibynu ar fy ymddygiad presennol atat ti, yr wyf yn dy sicrhau nad ymostyngaf byth i dy groesawi dros riniog fy nhŷ ar ol heddyw. Cymer dy eiddo, a dos o fy ngolwg y mynyd yma!"

Diolchodd Llewelyn iddo yn goeglyd a chellweirus am y gorchymyn yma, a gadawodd y ty heb gymaint a ffarwelio hefo Gwen!

Oh'r fath loes i deimladau'r eneth anwyl honno oedd clywed am y cweryl a'i ganlyniadau! A hèl ei brawd i ffwrdd heb iddi gael cymaint a chusan ganddo! Yr oedd yn ormod o greulondeb. greulonded.

"Oh!" meddai" ———gyr hyn ef i feddwi eto'n waeth nag erioed! Dyna fo'n awr wedi ei ollwng gyda'r ffrwyn ar ei war—ei feddwl wedi ei gythryblu a'i daflu oddi ar ei echel—digon o arian yn ei logell—llu o gymdeithion drwg o'i gwmpas yn barod i'w ddenu i byllau meddwdod fel o'r blaen! Oh, beth a ddaw o hono ef a minau? Fy Nuw!—bydd Di'n Arweinydd ac yn Noddwr i ni!"

Ni wyddai'r addfwyn Forfudd am yr anffawd yma. Yr oedd hi wedi gadael yr ardal, ac wedi dychwelyd i Fôn at ei mam. Bu Llewelyn yno yn edrych am dani dair gwaith, ac ysgrifenai ati braidd bob dydd. Enillodd ei ymddygiad boneddigaidd, ei dymher dda, a'i ofal mawr am foesgarwch, rhinwedd, a chrefydd, tra ar ei ymweliadau