odreu'r blinds—dychymygai glywed ochenaid yn ymddyrchafu o'i mynwes o gydymdeimlad ag ef. A hyn oll, pan oedd cenllysg yn peltio'r llanc braidd i farwolaeth, a phan oedd yr anwyl Forfudd Jones mewn petrusder yn ei gylch, ac yn gobeithio 'i fod yn parhau'n ffyddlon a digyfnewid. Ond pa goel sydd i'w roddi ar ddyn meddw?
Effeithiodd y cyffro a'r oerni'n drwm arno. Hanner awr wedi chwech, cafodd yr heddgeidwad hyd iddo wedi fferu i ddideimladrwydd ar gareg drws gwrthddrych ei gariad gau. Yn ffodus, gwasanaethodd cerdyn ag oedd yn ei logell, i alluogi'r heddgeidwad i'w gymeryd i'w lety. Galwyd meddyg ato, a chanfyddodd hwnw fod effaith y ddïod a yfodd, y cyffro ar ei feddwl, a'i waith yn sefyll allan trwy'r nos ar y fath dywydd, wedi dwyn twymyn beryglus arno. Cynghorodd y meddyg ef i beidio yfed dafn ychwaneg o wirod nes llwyr wellhau: ond yfed a wnaeth, nes, yn ychwanegol at y twymyn, iddo ddwyn arno 'i hun y selní ofnadwy hwnw a elwir wrth yr enw delirium tremens—sef math o wallgofrwydd, yn deilliaw oddi wrth yfed i ormodedd—neu yr hyn a adwaenir yn fynych gan y Cymry yn gystal a'r Saeson dan y disgrifiad o "weled y Blue Devils."
Ymosododd y clwyf hwn ar Llewelyn yn ei ffyrnigrwydd mwyaf. Gorchymynodd y meddyg ar fod iddo gael ei rwymo wrth y gwely; a phan deimlodd y meddwyn ei hunan yn rhwymedig felly, gyda haid o ddieithriaid o'i gwmpas, gwnaeth yr oernadau mwyaf brawychus, ac ysgyrnygai ei ddannedd fel ellyll! Edrychai ei wyneb, a fu mor deg gynt, yn gwbl fel gwyneb rhyw fod annaearol. Ymwibiai ei lygaid i bob congl o'r ystafell, gan edrych fel pe am neidio allan o'i ben. Llefai, ysgrechai, ceisiai gnoi ei hun a phawb o'i gwmpas, am tuag awr gron. Wedi hyny diffygiodd, a gorweddodd yn llonydd am enyd.
Nesäodd y meddyg ato gan geisio teimlo 'i bwls. Gyda 'i fod wedi cyf hwrdd â'i arddwrn, trôdd Llewelyn ato, gan lefain,—
"Gwarchod pawb! Ifan Llwyd. Pwy fuasai'n disgwyl dy weled yn y fan yma? Wyddost ti fy mod i bob amser yn hoff o dy gwmpeini?"
Yn ffodus i'r gwallgofddyn, yr oedd yno Gymro yn yr ystafell, yr hwn a gyfieithai i'r meddyg bob peth a ddywedai Llewelyn os byddai yn Gymraeg. Cymerodd y meddyg arno mai Ifan Llwyd oedd, er mwyn ceisio dyfeisio rhyw foddion i dawelu ei feddwl. Ac y mae'n wybyddus hefyd yn mhlith y doctoriaid, mai y ffordd oreu