Deallodd y meddyg os parâi fel hyn yn hir, nas gallai'r babell bridd ymgynal. O ganlyniad, mynodd gael eillio ei ben yn llwyr, heb adael yr un blewyn o wallt—gwaedodd lawer arno o'i fraich—gorchymynodd ar fod i'r ystafell gael ei chadw mor ddystaw ag oedd modd, ac ar fod i bob dyeithrddyn gael ei gadw o honi, a chymysgodd ryw physigwriaeth briodol iddo. Pe na buasai hyn wedi ei wneyd yn y modd mwyf deheuig ac effeithiol, credu yr ydym y buasai ei ddelirium yn cael ei weithio i'r fath raddau, nes gwneyd i'r fflam o gynddaredd yr oedd ynddi ymgyneu gyda'r fath ffyrnigrwydd, nes llwyr ddifa'r cynneddfau deallol, gan adael y corphyn — y gragen—y muriau noethion, duon, ac adfeiliedig, eu hunain, yn gofgolofnau echrydus o effaith gwallgofrwydd wedi ei achosi gan feddwdod.
Ond llwyddodd y driniaeth a gafodd Llewelyn Parri, i ddarostwng yr ystorm oedd yn bygwth ei synwyrau, ac hyd yn oed ei fywyd. Diflannodd y dymhestl pan oedd wedi chwythu'r dyoddefydd gyn belled ag ymylon y bedd, yn mha fan y bu'n gorwedd wedi hyny am ddyddiau lawer cyn gallu ymgodi. Nis gallai braidd ysgwyd na bys na llaw, nac ysgogi yr un rhan o'i gorph, nac hyd yn oed cnoi ei ymborth. Braidd y gallesid dweyd am amryw ddyddiau ei fod ar dir y rhai byw, ac nid pryder bychan a feddiannai feddwl y meddyg yn nghylch ei dynged ddyfodol.
PENNOD XVII.
PAN ddaeth y gair i glustiau Morfudd a'i mam, fod Llewelyn wedi troi allan i fod yn ddyn mor wyllt a meddw, penderfynasant na fyddai dim mwyach a wnelent hwy âg ef. Nis gallai yr hen Wenhwyfar Jones feddwl am adael i'w merch hynaf gael ei chylymu am ei hoes â dyn yn meddu cyn lleied o reol arno 'i hun. Gwyddai yr hen wraig o'r goreu nad ellid byth dysgwyl dedwyddwch hefo dyn meddw. Cafodd wers nad anghofiai am ei hoes, mewn perthynas i annedwyddwch gwraig meddwyn, o herwydd fe drôdd brawd iddi hi allan yn feddwyn cyhoeddus, a dygodd y fath drueni i'w deulu nes y bu i'w wraig dori ei chalon mewn gofid ac eisieu. "A pha beth a ddeuai o honof," meddai Mrs. Jones wrth Morfudd, "pe y byddai raid i ti