Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yliol a llenyddol: o'r braidd na thybid fod yr arwr heb gael ei gadw ddigon yn y golwg; pentyrir ynddo lawer iawn o gyfundraethau o is-ddigwyddiadau, oll yn berthynol, ac fel rhyw fan gylchau yn ffurfio yr un cylch mawr cyffredinol.

Nid wyf yn gwybod yn iawn beth i feddwl o briodoldeb y cynllun o osod yr oruwch-adail ar dir mor grefyddol, mae gosail y ffug-chwedl ar grefyddolder meddwol; a'r golygfeydd, braidd o hyd, yn feddwdod crefyddol. Tuedda y cynllun a'r cyflawniad i warthruddo crefyddolder Cymru yn fawr; a oes achos, nis gallaf benderfynu yn sicr, hyderaf nad oes yn gyffredinol, a phrin y mae ansawdd lleol neu enwadol yn cyfiawnâu y fath ddynoethiad.

Nid yw y cyfansoddiad yn ddyddorol, cymaint ar gyfrif ei nodweddion ffug-chwedlyddol, ag ar gyfrif ei amrywiaeth traethiadol, a lliosogrwydd ei ddygwyddiadau. Cynwysir llawer o synwyr, a rheswm; hysbysrwydd ystadegol, ac addysg ymarferol yn y pregethau a'r areithiau a ddygir i mewn, y rhai a ysbrydolir a chryn ddyddordeb, ffraethineb, a bywiogrwydd.

5. "Meddwyn Diwygiedig." Teitl y ffughanes yw "Llewelyn Parri," yr hwn yw enw yr arwr; cawn olwg arno yn y bennod gyntaf, yn ei gyflwr dedwydd diwygiedig, ac wrth rodio yn y boreu i arolygu ei dyddyn hyfryd, daw hen feddwyn a fuasai yn gydymaith, ac yn fagl iddo gynt, i'w gyfarfod, rhedir yr amgylchiad hwn i dipyn o stori fechan pur gyffrous, yr hon a grea y fath ddyddordeb, ac a enyn y fath chwilfrydedd yn y darllenydd, nes ei hoelio wrth hanes hynt yn arwr o hyny allan. Mae dyddiad dychymygol y ffughanes hwn, yn flaenorol i ddargan-