nghalonau rhyw bobl dda i sefydlu'r gyfryw gymdeithas. Ac yn awr dyma ei phrophwydoliaeth wedi ei chyflawni, a thyna Llewelyn Parri wedi ardystio Dirwestiaeth. Ymdrechais fy ngoreu lawer gwaith i fyw'n ddyn sobr yn nerth yr egwyddor o yfed yn gymedrol, ond gwyr pawb fel y methais—y mae fy nghwympiadau mynych, gwaradwyddus, yn hynod yn mysg meddwon yr oes;—dygais fy hun, a llusgais chwithau, i ddyfnder tlodi a thrueni. Ond fy ngwaith bellach fydd eich tynu yn ol at odreu mynydd dedwyddwch, lle y cawn ein llochesu gan gysgod y graig ddirwestol rhag holl ruthrau y gelyn Meddwdod. Boed i Dduw fy nerthu i gadw fy ardystiad!"
"Amen!" meddai Morfudd, gyd â'r difrifoldeb mwyaf. "Dowch, fy anwyl wr," hi a ychwanegodd, "ymostyngwn ar ein gliniau—cydnabyddwch eich troseddau y rhai a wnaethpwyd o'r blaen tywalltwn ein calonau o flaen Duw—diolchwn iddo am y llewyrch yma y mae wedi ei anfon atom, a gofynwn am ei ras a'i nerth i fyw rhagllaw er ei glod ac yn ei wasanaeth." Gafaelodd yn llaw ei gŵr, a phenliniodd y ddau ar y llawr noeth. Erioed ni ddyrchafwyd gweddi ddyfalach gan fodau dynol, ac erioed ni welwyd dagrau mwy diffuant yn treiglo i lawr gruddiau mab afradlon nag a dreiglai i lawr gruddiau Llewelyn Parri, wrth arllwys teimladau dyfnion ei enaid o flaen gorsedd gras y noson honno. Tywynodd gwawr o gariad Duw i'w enaid tra ar ei liniau, a chododd i fyny yn ddyn newydd.
Bore dranoeth, dywedodd Llewelyn wrth ei wraig,—
"Wel, fy Morfudd, nid yw'n ddigon i mi fod wedi ardystio llwyrymwrthodiad—mae'n rhaid i mi wneyd rhywbeth arall cyn y gallwn fyw—rhaid i mi weithio. Af allan yn awr i chwilio am rywbeth i'w wneyd."
Bwriad Llewelyn oedd myned at rai o gyfreithwyr y dref, i chwilio am le yn ysgrifenydd mewn swyddfa. Ar ei ffordd, efe a gyfarfyddodd âg un o'r boneddigion oedd yn cadw'r cyfarfod y noson flaenorol. Daeth at ein harwr, ysgydwodd law âg ef, a dywedodd,
"Yr oedd yn dda gan fy nghalon eich gweled yn dod yn mlaen neithiwr, Mr. Parri. Hyderaf y bydd i'r tro fod o fendith i chwi, eich teulu, a'r byd,"
"Gobeithio hyny yn wir!" ebe Llewelyn. "Y mae fy nheulu wedi cael dyoddef cymaint oddi wrth fy meddwdod i, fel y mae'n rhywyr i mi chwilio am rywbeth ag a'u cyfyd o'u cyflwr truenus presennol, ac a rydd radd o gysur iddynt eto."