Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/161

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Beth ydyw, fy anwylyd?"

"Wnewch chwi beidio holi dim, os gofynaf?"

"Gwnaf."

"O'r goreu, 'ngeneth i," meddai, gan argraphu cusan gynhes ar ei boch. "Yr wyfam ofyn i chwi wisgo'r plant yn eu dillad cynhesaf, a chwi eich hunan yr un fath, a dyfod allan hefo mi am dro. Y mae'r noson yn hyfryd, er ei bod yn rhewog.

"Ond pa'm

"Ah!-dim holi! Cofiwch eich addewid!"

Deffröwyd y plant; ac yr oeddynt oll yn barod i gychwyn yn mhen ychydig fynydau.

Yr oedd y lleuad wedi codi, ac edrychai y ser yn siriol ar y pererinion dyddorol. Arweiniai Llewelyn y ffordd, a dilynid ef gan Morfudd a'r plant. Bu hi ar fin ei holi ddwywaith neu dair, ond cofiodd yr adduned.

Aethant allan o'r dref, a cherddasant yn mlaen, nes dyfod gyferbyn a'r hen fferm, lle yr oeddynt wedi bod yn byw mor ddedwydd flynyddoedd yn ol. Yr oedd yr eira wedi ei glirio oddi ar y llwybr at y tŷ. Agorodd Llewelyn y drws dilynwyd ef i fewn gan ei wraig grynedig. Yn y gegin, yn eistedd o flaen tân brâf, pwy a welid ond Mr. a Mrs. Powel, a—Gwen. Buasai 'n anhawdd i baentiwr o ddarfelydd cryfion allu gwneyd darlun cywir o'r cydgyfarfyddiad hapus. Wylai pawb yn uchel am ychydig fynydau.

Ust! dyna 'r awrlais yn taro deuddeg! Y mae'r hen flwyddyn wedi ehedeg i dragywyddoldeb, i roddi lle i un arall!

Cymerodd Llewelyn Parri afael yn llaw ei wraig, a dywedodd wrthi,—

"Wel, fy Morfudd, os bu i feddwdod ein gyru o'r baradwys ddaearol yma, fe ddygodd Dirwest ni yn ol—yr ydych unwaith eto yn wraig y Brynhyfryd! Edrychwch arnaf, fy anwyl Forfudd, a gwenwch ar eich gŵr; a chwithau hefyd fy mhlant, ymgesglwch o gwmpas eich tad—a thyna galenig a roddodd Cadben Morris i chwithau. A chwithau, fy ngwarcheidwaid a'm chwaer, cydlawenhewch â mi, canys yr hwn a fu farw a ddaeth yn fyw drachefn—bum golledig, ond fe'm cafwyd. O fy ngwraig, os oes dedwyddwch i'w gael ar y ddaear, ni a'i cawn bellach, a'r cyfan mewn canlyniad i effeithiolrwydd Dirwest.

Syrthiodd y cyfan ar eu gliniau, dyrchafodd Llewelyn weddi a mawl at Dduw, a chyfododd y gynulleidfa fechan i fyny mor ddedwydd ag y gallai bodau marwol fod.