bum' mlynedd, ymuno a Chrefydd; bu fyw am ddwy flynedd yn deilwng o Gristion; daeth twymyn boeth i'r ardal; ysgubodd Huw i'r byd arall, ond nid cyn iddo roddi tystiolaeth eglur cyn marw, ei fod yn cael ei dderbyn i wlad lle nad oes "**marw mwy Ond canu am glwy' Calfaria fryn
Eisteddai Llewelyn a Morfudd Parri, un o bob ochr i'r tân.
"Glywsoch chwi ddim o hanes Ifan Llwyd wedyn?" gofynai'r wraig.
"Yr oeddwn am fyned i ddweyd wrthych yr hyn a glywais am dano gan Huw'r gwas," atebai Llewelyn. "Beth am dano?"
"Ah! Morfudd bach, y mae'r gwirionedd braidd yn rhy erchyll i'w adrodd; ac y mae yn fy nychryn i'n fwy wrth feddwl mor agos fum i fy hun ugeiniau o weithiau, i gyfarfod â'r un dynged ofnadwy. Y mae Ifan Llwyd wedi myned i wlad nad oes yr un dafn o ddïod byth i'w chael ynddi !"
"Wedi marw?"
"Ië! a'r fath farwolaeth! llosgodd ei hun i farwolaeth trwy yfed whiskey! Rhyddhawyd ei enaid i fyned i wyddfod y Duw cyfiawn, trwy i'r corphyn gwael oedd am dano fyned ar dân, dan effaith diod gadarn!—y mae yn ofnadwy meddwl am dano!"
"Ydyw, y mae; ac y mae yn destun newydd i mi i ddiolch am i chwi gael eich cadw rhag yr un dynged. Po mwyaf y daw un yn gydnabyddus â dynion ac a dull y byd, mwyaf o brofion a geir o ddrygedd meddwdod.
"Gwir. A thra bo nerth yn fy ngewynau, llais yn fy ngwddf—tra bo ymenydd yn fy mhen—tra bo anadl yn fy ngenau—mi fynaf rybuddio pobl rhag chwareu â'r fath elyn dinystriol, a'u perswadio i lwyrymwrthod—ymwrthod am byth a'r ddïod sy'n ddinystr i'r corph ac yn ddamnedigaeth i'r enaid!"
PENNOD II.
Yr ydym yn awr wedi cael cipolwg ar Llewelyn Parri a'i deulu yn y mwynhad o dangnefedd sobrwydd; cartref