Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sant Cymreig-Dewi Sant. Wedi dyfod o'r bachgen i'r ystafell, dywedodd ei dad wrtho :

"Hwda, Llewelyn, dyma i ti lasiad o win; yr ydym yn awr yn myn'd i yfed i goffadwriaeth yr hen Ddewi Sant. Ti gei yr anrhydedd o gynnyg y toast."

Neidiodd y bachgen chwe'mlwydd oed yn mlaen, a chydiodd afael yn y gwydr fel llanc. Daliodd o yn ei law, yn union fel y sylwodd ar ei dad yn gwneyd, a dywedodd mewn llais clir, ' "I goffadwriaeth Dewi Sant—Cymro o waed coch cyfan—dyn a wnaeth gymaint o glod i Gymru a dyn a gaiff glod am byth gan y Cymru !"

"Bravo!" llefai'r holl gwmpeini, tra y pelydrai brwdfrydedd, teilwng o oed addfetach, allan o lygaid dysglaer yr hogyn, yr hwn oedd fel hyn wedi dysgu geiriau ei dad. Cododd yr holl gwmpeini ar eu traed, ac yfasant y cibli mewn dystawrwydd pwysig a chysegredig, fel y tybient y gweddai i goffadwriaeth Sant y Cymry.

Bychan feddyliodd neb o'r cwmni llawen mai y foment y cyfododd yr hogyn y gwydriad gwenwynig at ei wefusau, fod diferyn o felldith wedi disgyn i'r ddïod o gwpan llid cyfiawnder y nef: ac fod Mr. Parri a'i dylwyth, o'r foment hono, wedi ei nodi â nod o anfoddlonrwydd ac anghysur ag y byddai raid iddo ef fyned i'r beddrod dan ei bwysau, ac y byddai i ddegau o flynyddoedd fyned heibio heb i'r felldith gael ei symud oddiwrth ei deulu. Ond fe genfydd y darllenydd mai felly fu.

Pan darawodd yr awrlais unarddeg o'r gloch, fe ymadawodd yr holl gwmpeini o dŷ Mr. Parri, wedi cael eu mawr foddloni yn y croesaw a gawsant, a'r dynion, o leiaf (canys yr oedd yno fenywod hefyd), yn teimlo 'u hunain yn dra llawen, os nad yn tybied eu hunain yn rhywbethau uwchlaw bodau dynol, dan effeithiau'r gwirodydd diail a gedwid yn selerydd Mr. Parri, o ba rai yr yfasant yn o helaeth.

Yr oedd gan Mr. a Mrs. Parri ychwaneg nag un dyben mewn golwg wrth roddi parti'r noson hon. Heblaw y rhoddai gyfle iddo ef i gydymgynghori ar faterion gwleidyddol a masnachol o bwys, yr oedd hefyd yn awyddus am gael math o noswaith lawen cyn ei fynediad i New York, i ba fan yr oedd i gychwyn bore dranoeth, ar ryw neges bwysig mewn cysylltiad a'i fasnach helaeth.

Yn awr, yr oedd y y gŵr a'r wraig wedi eu gadael iddynt eu hunain, i siarad am y fordaith faith, ac i arllwys geiriau cariad y naill i enaid y llall.

Dynes gariadus i'r pen oedd Mrs. Parri; a dyn tyner, hoff anghyffredin o'i brïod, oedd yntau. Gwelai hi ef yn