Aeth tri mis arall, cymysg o ddedwyddwch a phryder heibio. Dysgwyliai Mrs. Parri lythyr oddiwrth ei gŵr, yn yr hwn y byddai yn dyweyd pa ddiwrnod y deuai adref.
Yr oedd hi a'r ddau blentyn wedi bod yn y parlwr am haner awr, un boreu, yn chwareu rhai o'i hoff alawon ar ol cymeryd rhodianfa fer i ben y bryn. Yr oedd Mrs. Parri megys yn teimlo rhyw swyn anarferol y boreu hwnw yn swn y piano; ac yr oedd nodau naturiol yr hen alawon Cymreig yn cyfodi rhyw syniadau dyeithrol o'i mewn. Anfonodd y plant i gymeryd eu boreufwyd, ond arhosodd hi ar ol, a pharhai i chwareu. Cyfodai ysbrydion megys ar heriad y seiniau melusion-ysbrydion yr hen amser gynt pan oedd hi yn eneth ddiofal-wedi hyny yn briodferch ddedwydd-a thrachefn yn fam ofalus. Ysgubai'r hyn a fu, y sydd, ac a ddaw, o'i chwmpas mewn cylch cyfareddol. Nid oedd un math o alawon yn awr yn gyfaddas i'w theimlad heblaw rhai lleddf, cwynfanus, a sobr. Aeth ei hysbryd yn drwm; nis gwyddai paham; ond nis gallasai beidio chwareu ar y piano, a hyny yn y dull mwyaf pruddglwyfus.
Aeth i feddwl am lwyddiant ac anrhydedd ei gŵr, ac yn y meddwl hwnw hi a chwareuai alaw hyf—" Difyrwch Gwŷr Harlech," os ydym yn cofio'n iawn. Daeth i'w chof yr hyn a ddygwyddodd i Sion Williams a'i deulu, a'r arwyddion o ol dïod oedd ar ei gŵr y noson cyn cychwyn i ffwrdd, a chyfnewidiai ei thôn i'r cywair lleddf yn ei ol. Aeth i ddychymygu llu o bethau, disail efallai. Tybiodd y gallasai ei gŵr ysgrifenu ati yn amlach nag unwaith bob deufis neu dri, er ei fod mor bell; ac aeth i ofni fod ei ofal a'i gariad yn dechreu oeri. Gwyddai fod ei gwr yn un o'r rhai tyneraf wrth natur—o duedd gyfeillgar i'r eithaf; ond ofnai drachefn fod hyd yn oed y rhinweddau hyn yn demtasiynau iddo i ymhel gormod â'r gwpan feddwol. Tybiai y gallasai ei duedd gymdeithasgar, ei haelfrydedd digyffelyb, ei ddymuniad mawr am foddio eraill—y nodweddion a'i gwnaeth yn wrthddrych parch mor gyffredinol —tybiai y gallasai hyn fod yn foddion i'w niweidio mewn gwlad ddyeithr, mor lawn o demtasiynau ag ydoedd New York. Pa un a oedd rhyw sail i'r ofnau hyn ai peidio, amser byr a ddengys. Pa fodd bynag, nis gallai Gwen Parri rwystro i'w dagrau syrthio a gwlychu allweddau'r piano wrth feddwl am danynt; a dyrchafodd weddi at Dduw pob daioni yn iselder ei hysbrydoedd y boreu hwnw.
Nid oes neb ond cristion pur a all deimlo a mwynhau'r