na fuasent yn gadael i mi farw?" gofynai. "Pa'm y codasant fi o'r trobwll du hwnw o ing, yn nerth pa un yr oeddwn yn cael fy llusgo, megys â nerth anwrthwynebadwy i geulan y bedd? Gwell bod yno wrth ochr fy ngŵr, na byw, a gwybod ei fod ef wedi marw!"
"Ah! Mrs. Parri," meddai rhyw gymydoges dyner-galon, "cofiwch am eich plant!"
"Fy mhlant!—fy mhlant! O, ïe, fy mhlant! Y maent yn awr wedi eu gadael yn amddifaid o dad!"
"Ond, er hyny, mae Tad yr amddifaid eto yn fyw," oedd yr ateb tyner.
Y mae'r syniad crefyddol yma wedi bod yn angor gobaith i filoedd o weddwon, pan mewn trallod yn methu gwybod beth a ddeuai o'u plant. Felly y bu i Mrs. Parri. Tybiodd y rhai oeddynt yn sefyll yn ei hymyl ar y pryd, fod math o wên angelaidd wedi ysgubo'n ddystaw bach ar draws ei gwyneb, pan grybwyllwyd y cysur nefol hwn iddi. Digon tebyg. Yr oedd hi'n' un o'r rhai a wyddai'n dda beth oedd byw mewn ymddibyniad ar yr addewidion dwyfol.
Ond yr oedd y tarawiad yn un trwm. Effeithiodd i'r byw. Ofnai'r meddyg y byddai'n un ai ei bywyd neu ei synwyrau gael eu ddinystrio gan y ddyrnod. Ac nid rhyfedd. Wedi iddi fod am fisoedd yn breuddwydio am ddychweliad ei gŵr, ac yn ymbarotoi ar gyfer yr amgylchiad dedwydd wedi bod yn rhoddi ei holl ymdrechion meddyliol ar waith i berffeithio'r plant, yn enwedig Llewelyn, yn eu gwersi, erbyn dyfodiad eu tad—wedi bod yn gosod pob peth mewn trefn teilwng i'w groesawu; a phan oedd ei hawyddfryd wedi ei godi i'r pwynt uchaf o ddysgwyliad a phryder, yn cael ei hysbysu yn y diwedd ei fod wedi cael ei dori i lawr yn nghanol ei rwysg a'i lwyddiant, heb iddi hi dderbyn cymaint a gair na gwên ymadawol oddiwrtho. Rhuthrai ei myfyrdodau difäol trwy ei hymenydd fel afon o dân, yn dwyn beunydd yr unrhyw weledigaeth ar frigau ei thonau tanllyd y weledigaeth o'i gwr yn oer ac yn farw, wedi cael ei daraw i lawr gan gyllell y llofrudd—ei gwr wedi marw—wedi ei ladd wedi ei lofruddio! Gwelai ef yn holl ogoniant ei ddynoldeb—yn brydferth, urddasol, caruaidd, a llwyddiannus—yn cael ei dori i lawr yn ddisymwth, heb gael amser i ddanfon yr un genadwri o gariad, nac efallai, gymaint a gweddi cyn marw! Ymddangosai pob peth iddi'n dywyllwch di wawl-heb yr un pelydr o obaith. Dychymygai ei weled yn ymbalfalu yn y glyn tywyll, heb gyfaill i'w arwain—heb wraig i gynal ei