dreulio'r gwyliau dan gysgod bryniau Arfon? Ysgotyn yw, o'r enw Walter M'c Intosh; ond y mae'n un o'r bechgyn callaf, mwyaf moesgar, ffyddlonaf, y cyfarfyddais âg ef erioed. Gwnawn chwi a Gwen bach, rhyngom ein dau, mor llawen a chogau, er fod yr eira'n hulio'r ddaear. "Fy nghariad puraf i fy anwyl, unig chwaer, Gwen. Derbyniwch chwithau yr unrhyw, fy serchog a ffyddlon fam, oddi wrth eich mab diffuant,
"Mrs. Parri."
Anfonodd ei fam lythyr yn llawn o serch, gyd â'i haner wedi ei ysgrifenu gan Gwen bach, yn atebiad i'r nodyn uchod; a rhoddodd y gwahoddiad gwresocaf i Walter M'c Intosh ddyfod gyd âg ef i dreulio pymthegnos yn Ngwyllt Walia.
Daeth y ddau lanc i Gymru yn holl rwysg Colegwyr ieuainc o ysprydoedd llawen, a meddyliau diwylliedig. Derbyniwyd Llewelyn a'i gyfaill gyda'r caredigrwydd a'r serch ag y gallesid yn naturiol ei ddisgwyl oddi wrth y dyner Mrs. Parri, a'r brydferth, seraphaidd Gwen bach.
Dichon y dylem, yn y fan yma, roddi disgrifiad o'r ddau lefnyn Colegaidd.
Dyna Llewelyn yn eistedd yn ddïofal ar y soffa, ac yn tynu Gwen, ei chwaer, ato, gan wneyd iddi eistedd ar ei lin. Ymdonia modrwyau o wallt brown, cyrliog, o gylch ei dalcen hardd, braidd gyd â'r prydferthwch ag a hynodai ei dâd o'i flaen. Arddengys y llygaid gleision, disglaer, treiddgraph, a charuaidd-y trwyn syth a thlws—y genau heirdd mewn gair, arddengys ei holl wynebpryd brydferthwch braidd heb ei ail, ac fod enaid mawr o fewn y llanc gobeithiol yma.
Nid oedd Walter Mc' Intosh yn debyg i Llewelyn mewn dim braidd. Meddai bâr o lygaid duon digon prydferth, gwallt du fel y frân, gwedd—ymddangosiad tywyll drwyddo, a ffurf corphorol cryf iawn, eto, diwall a mawreddog yr olwg. Arddangosai foesgarwch o'r math mwyaf diwylliedig, a deall cryf; ond yr oedd rhywbeth cyfrwysgall i'w ganfod, ond sylwi'n fanwl—a rhaid fuasai manylu cryn dipyn hefyd cyn canfod yn ardrem ei lygaid duon.
Nid oedd dim yn ei holl ymddangosiad a fuasai'n un gwaradwydd i Llewelyn Parri, am ei ddewis yn gydymaith; eto, nis gallasai Mrs. Parri lai na synu paham y dewisodd ei mab y llefnyn hwnw. Yr oedd flwyddyn neu ddwy'n hŷn na Llewelyn, er na chyrhaeddodd yr un gradd