RHAGYMADRODD.
Y MAE Nofel Gymraeg braidd yn beth newydd ar y ddaear; ac wrth gyflwyno yr un ganlynol i sylw 'r cyhoedd, tybiwyf fod yn ddyledswydd arnaf ddweyd gair neu ddau mewn perthynas i'r llyfr, a'r achos i mi ymosod ar y gwaith o'i gyfansoddi.
Y mae'r wlad yn llwyr argyhoeddedig fod Meddwdod yn un o'r melldithion penaf ag sy 'n llychwino dynoliaeth gwympiedig. Nid oes yr un dref na phentref, teulu nae aelod o deulu, nad yw 'n gwybod am ffeithiau echrydus mewn perthynas i effeithiau meddwdod. Prin y gellir cyfeirio bys at gynifer ag un teulu cyfan sydd wedi dïanc yn ddi—graith. Nid yw Gwalia gu, yr hon sydd wedi ei bendithio â chymaint o fanteision moesol a chrefyddol, yn rhydd oddi wrth felldithion anghymedroldeb. Y mae ugeiniau a channoedd o Gymry, y fynyd hon, yn ymdrybaeddu yn ffosydd meddwdod, ac yn ymbrysuro 'n gyflym tua bedd gwaradwyddedig a thruenus y meddwyn. Cyfarfyddodd rhai o fy nghyfeillion goreu â thynged ofnadwy meddwon; a minau, braidd na lithrodd fy nhroed—braidd na thripiodd fy ngherddediad. Pan chwythodd croeswynt amgylchiadol certh yn fy erbyn, ar fy nghychwyniad cyntaf ar donau siomedig y byd, gwn i galon fy mam