Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ond pa atalfa a ellir roddi?”

"Dyna'r cwestiwn mawr. Yr wyf fi wedi bod yn treio dyfeisio llawer cynllun, ond yn methu'n glir a chael un wrth fy modd. Byddaf braidd a meddwl weithiau y dylai pob dyn a dynes ymwrthod yn dragywyddol â phob math o ddïodydd meddwol, ac y dylai pob tŷ tafarn yn y deyrnas gael ei gau i fyny."

Pw! lol wirion, mam; peidiwch boddro 'ch pen hefo phethau fel hyn. Beth ddeuai o'r byd pe y rhoddai pawb y goreu i yfed yn gymedrol? A phaham y dylid cau'r tafarnau? Y mae gwerthu cwrw a gwirod yn fusnes gonest; ac os oes rhai'n analluog i reoli eu trachwantau eu hunain, ni ddylid cosbi pawb am hyny. O'm rhan i, yr wyf yn ddigon hoff o ddiferyn o wirod yrwan ac yn y man; ac mi ystyriwn fy hun yn cael fy nghaethiwo'n ormodol, ac yn annheilwng o ddyn rhydd, pe y rhwystrid fi i yfed yn gymedrol am fod eraill yn yfed gormod.

"Fy mab!" meddai Mrs. Parri'n ddifrifol; "yr wyt yn siarad fel bachgen difeddwl a diofal, ac un nad yw erioed wedi deall rheolau euraidd yr egwyddor Gristionogol. Yr wyf fi'n gwadu fod gwerthu dïodydd meddwol yn fusnes gonest, er y gallai rhai dynion a merched gonest fod yn eu gwerthu; o herwydd nid wyf yn credu fod gwerthu diodydd o'r fath yn gwneyd lles i neb, tra gŵyr pawb eu bod yn gwneyd niwed i bawb. Y mae gwario arian am wirod yn waeth na 'u taflu ymaith. Y mae'r dyn sydd yn ymgyfoethogi ar werthu gwirodydd poethion, yn lladrata pobl o'u harian, cysuron, cyfeillion, tai, tiroedd, nodweddiad, iechyd, bywyd, ac enaid; ac yn rhoi yn eu lle, anghysur, gwallgofrwydd, clefydon, llofruddiadau, terfysgau, cableddau, dinystr, a phleser mynudol y delirium. Busnes gonest wyt ti'n galw peth fel yna? Ai gormod genyt ti fyddai aberthu ychydig wirod bob dydd er mwyn cael ymwared â'r holl bethau hyn? Na, nid yw fy Llewelyn anwyl i yn un mor hunanol a hyny!"

"Dowch mam-yr ydych yn siarad yn rhy ddifrifol o'r haner ar y mater! Ni feiddiaf fi ddadleu a chwi yn y style yna. Yr ydych yn dymuno gormod o lawer, mae arnaf ofn. Fedrwn ni ddim dysgwyl i bob peth gael ei ddwyn yn mlaen mewn perffaith gydweddiad â rheolau Cristionogaeth yn yr hen fyd llygredig yma."

"Pa un bynag a fedrwn ni ddysgwyl hyny ai peidio, felly y dylai fod. A phe yr ymddygai pobl yn unol â rheolau yr hen Fibl yna, ni fyddai'r fath beth a meddwdod a'i ganlyniadau o fewn y byd. Ac yr wyf fi'n coleddu rhyw