Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

syniad dirgelaidd, er's wythnosau bellach, ond na wiw imi adael i neb ei wybod, rhag iddynt chwerthin am fy mhen, mai dyledswydd pob dyn a dynes gymedrol yw peidio yfed dim, er mwyn esiampl i'r rhai sy'n yfed llawer. Ac yr wyf wedi dyfod i'r penderfyniad yma, sef na chaiff yr un dafn o ddïodydd alcoholaidd byth ymddangos ar fy mwrdd i, ond hyny."

"Pw, pw! peidiwch bod yn wirion! Yr wyf fi'n ddigon hoff o wirod! Ac yr wyf yn bwriadu dal ati i yfed ychydig bach ar hyd fy oes. Nid oes arnaf yr ofnad lleiaf na's gallaf reoli fy hun hefyd, heb wneyd ffwl o honof fy hunan."

Pe na buasai Mrs. Parri mewn cyrhaedd clyw, buasai Walter M'c Intosh wedi adgoffa i Llewelyn fod ei ymffrost yn nghylch rheoli ei hun yn un go wag, o herwydd fe wyddai Walter ddarfod iddo fethu "rheoli ei hun" lawer gwaith mewn swperi a roddai'r naill golegydd i'r llall. Gwen bach, dan chwerthin, a ddywedodd,

Yr wyf fi'n meddwl yn siwr i mi glywed fy mam yn son ryw dro am fachgen bach yn myned yn feddw ar win yn yr ystafell giniaw, ac yn syrthio'n rholyn ar draws yr ystolion. Beth ddywedet ti, fy mrawd, pe y clywet ti'r bachgen hwnw'n bostio y gallai reoli ei hun?"

Cyrhaeddodd y sylw ei bwynt dymunedig, o herwydd fe wridodd Llewelyn at ei glustiau, a cheisiodd lanhau ei hun trwy ddyweyd,—

"Ho! beth oedd ryw dro hogynaidd felly? Nid oeddwn ond hogyn, neu, ni fuaswn yn gwneyd ffwl o honof fy hun. Yr wyf yn awr yn dechreu myned yn ddyn; ac fe gaiff y byd wybod mai fel dyn yr ymddygaf, y llefaraf, ac yr yfaf, ac nid fel ynfyd."

"Duw roddo nerth i ti i gadw dy benderfyniad, fy machgen anwyl i!" meddai Mrs. Parri.

PENNOD VI.

Nos Nadolig a ddaeth. Y fath ddysgwyl fu am dani! Y fath nifer o blant fu'n casglu pob dimai a fedrent gael, er mwyn gallu gallu prynu triagl i wneyd cyflath y noson honno! Gynifer o wyryfon a llanciau a gytunasant i eistedd i fyny i barotoi'r cyflath, ac i ymgomio am yr adeg yr unid hwy mewn glân briodas! Gymaint o ddichellion y bu plant y