dyner, a fy ngwraig addfwyn a gofalus, guro a gwaedu lawer noswaith, wrth sylwi ar fy nhueddiad i chwilio am gysur yn y gyfeddach, Diolch i'r Nefoedd am daflu pelydryn o oleuni ar fy llwybr mewn pryd! A fy mhrif ddymuniad wrth ysgrifenu 'r gyfrol ganlynol, oedd gosod fy nghyd-ieuenctyd, yn enwedig, ar eu gwyliadwriaeth, a cheisio dangos iddynt, yn y dull mwyaf tarawiadol ac argyhoeddiadol ag y gallwn, mai 'r unig sylfaen safadwy, i'w cadw rhag syrthio i ffosydd meddwdod, ydyw llwyrymwrthodiad. Ond nid gwiw i mi geisio celu ychwaith, fod gan y wobr gynygiedig gryn swyn i fy nghymhell i fyned yn mlaen hefo 'r gorchwyl; a dichon hefyd fod gan uchelgais am enwogrwydd ran yn yr argymhelliad. Peth digon hunangar ydyw 'r natur ddynol ar y goreu.
Synwn i ddim na chaiff y ffughanes yma ei gondemnio gan amryw, am mai Nofel yw. Y mae 'r enw 'n ddigon i ddychrynu rhai pobl cul-feddwl. Ond gobeithio gan Dduw y bydd i'r effeithiau a ddilynant y darlleniad o'r llyfr, argyhoeddi y rhai mwyaf gwrthwynebus i ffughanesion, o'r gwirionedd fod modd i nofel wneyd lles. Yn wir, yr wyf yn credu y gellir gwneyd mwy o gyfiawnder a phwnc tebyg i hwn, trwy ddull ffughanesol, na thrwy unrhyw ddull arall. Ni raid gorlwytho côf, na threthu amynedd, y darllenydd, a chyfres o ymresymiadau sychion ac ystadegau dyrus, i brofi effeithiau drygionus un arferiad, ac effeithiau daionus y llall. Mewn ffugdraith, fe ellir gosod y naill a'r llall, yn eu gwir liw eu hunain, o flaen y darllenydd, yn holl symledd a dyddordeb bywyd beunyddiol dyn. Y mae 'n well dull na'r un arall i bortreadu prydferthwch, rhinwedd, ac anfadrwydd drygioni, yn effeithiol. A dylai 'r wlad fod yn ddiolchgar i Bwyllgor Eisteddfod Cymrodorion Dirwestol Merthyr Tydfil, am