Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/67

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth ei enau hyd nes ei gwaghau'n llwyr. Yn ffodus, nid oedd yno ond ychydig o wirod wedi ei adael, neu buasai'n yfed ei hun i farwolaeth ar y llecyn.

Wedi cael ei foddloni gyn belled a hyn, hwyliodd ei gamrau tua chartref. Ah! dai fodd i rywun redeg a rhybuddio 'i wraig o'i ddyfodiad, a'i gorfodi i ffoi! Y mae y diawl yn corddi'r dyn hefyd! Ond adref y mae'n myned. Cafodd hyd i'w wraig yn eistedd ar yr hen aelwyd, heb yr un tenyn o dân; y ddau blentyn lleiaf ar ei glin, a'r hogyn mwyaf yn crio nerth ei ben wrth ei hochr, gyda 'i law am ei gwddf. Yr oedd ffynnonau ei dagrau hi wedi sychu er's dyddiau. Wele 'i gwr yn awr yn sefyll uwch ei phen. Nid fel yr arferai sefyll gynt, gyda gwên ar ei enau a chariad yn ei fynwes. Ni ddaeth i'r tŷ i fwynâu a chyfranu bendith i'w deulu, ond fel diafl i wasgar gwae yn eu mysg.

Neidia'r fam i fyny—cydia'r plant yn ei dillad—teimla pob un o honynt fod rhywbeth ofnadwy i ddisgyn arnynt. Tremia'r meddwyn arnynt fel pe trwy lygaid cythraul ysgyrnyga mor ddychrynllyd ag arch-ddiafl. Mae'n ofnadwy edrych arno!

"Am ba beth yr wyt ti'n crio yn y fan yna?" gofynai i'r bachgen.

Fedrai'r bychan mo 'i ateb gan faint ei fraw.

"Wnei di mo f' atebi?" gofynai'r tad annynol drachefn. "Mi ddysgaf i ti sut i siarad, ac mi ro'f ryw achos i ti i grio!" A chymerai afael yn ngwallt pen y bachgentarawodd ef yn ochr ei glust hefo 'i ddwrn cauedig dechreuodd fwrw cawod o felldithion a rhegfëydd am ei ben, a pharotoai ei hun i'w daflu allan trwy'r drws. Ond ar hyny, gwallgofwyd y fam wrth weled mab ei bru yn cael ei drin felly gan ei dad meddw—cipiodd glamp o gleiffon onnen fawr oedd yn agos i'w llaw, a tharawodd fraich ei gŵr nes ei gwneyd fel ffyst y dyrnwr!

Fuasai raid iddi ddim gwneyd hyny ychwaith. Pe yr arosasai am funud hwy, cawsai weled llaw ei gŵr yn ymollwng o wallt yr hogyn o honi ei hun, o herwydd yr oedd cyfnewidiad ofnadwy yn dechreu cymeryd lle ar y meddwyn. Cymerodd rhyw glefyd afael disymwth yn ei galon, ac attaliwyd ei wynt. Ah! ddarllenydd, beth pe gwelsit ti ei lygaid! fel y safasant yn ei ben mewn eiliad! Beth pe gwelsit welsit ti ei wyneb! fel yr arddangosai'r fath ddychryn nad allasai dim ond golwg ar uffern ei hun ei gynyrchu! Buasit yn gofyn mewn syndod, "Beth sydd ar y dyn?" Ah! eto: gwel ef yn rhoddi naid yn ol, fel pe bai sarph