Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dori tir newydd fel hyn yn llenyddiaeth ein gwlad, a dewis testun mor deilwng i ymgystadlu arno.

Nid oes a fynwyf fi a dweyd dim am deilyngdod nac annheilyngdod y Nofel; ond gadawaf hyny i'r Beirniad apwyntiedig, ac i farn y cyhoedd. Ond dymunwyf, yn y fan yma, gydnabod y llyfrau ag y bu i mi gael mwyaf o gymhorth wrth ei chyfansoddi. Er fy mod wedi cadw cystal fyth ag y gallwn at wreiddioldeb, eto nid gwiw gwadu na wnaethum ddefnydd o awduron eraill, ag oeddynt wedi cyrhaedd pinagl enwogrwydd fel Nofelwyr. Ail ddarllenais weithiau Metta Victoria Fuller, awdures Americanaidd, a Samuel Warren, cyn dechreu cyfansoddi; a buont yn gynhorthwy nid bychan i mi i ddwyn y cyfansoddiad yn mlaen yn llwyddiannus.

Os byth y geilw 'r wlad am ail argraphiad o'r llyfr, byddaf yn alluog i wneyd gwelliadau ac ychwanegiadau nid bychan yn y cyfansoddiad; ac os cyferfydd y gyfrol hon â llwyddiant a chefnogaeth, bwriadwyf gyhoeddi ail gyfrol, ar yr un testun. Ond y mae 'r pwnc yma i'w benderfynu yn hollol gan amser.

Mewn gobaith y bydd i'r gwaith hwn effeithio 'n ddaionus ar chwaeth, yn gystal ag ar foesau llawer o'r Cymry, y gorphwysa ufuddaf wasanaethydd ei genedl,

YR AWDWR.