Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

M'c Intosh. "Gallaf fi droi Llewelyn Parri o gylch fy mys fel edef wlan; ac mi roddaf fy ngair i chwi na welir mono ef yn mhen y dosbarth ar ddydd yr arholiad!"

Prydnawn dranoeth, daeth nodyn i law Llewelyn, yr hwn a redai fel hyn:

"FY ANWYL GYFAILL.-Yr wyf yn anfon hyn o nodyn i chwi ar frys gwyllt. Nid oes genyf amser i ddyfod fy hunan i'ch ystafell. Yr ydym yn myned i gael swper heno yn ystafell Mr. Smith. Ni fydd y dedwyddwch yn gyflawn heb Llewelyn Parri. Ac y mae yno bynciau pwysig i gael eu trin mewn perthynas i'r arholiad agoshaol. Dowch yno erbyn naw o'r gloch yn ddiffael,

Eich cyfaill serchog,

Walter."

Ufuddâodd Llewelyn i'r gwahoddiad. Cydgyfranogodd o'r Swper. Cymhellodd Walter ef i yfed mwy nag arferol; a'r canlyniad fu iddo feddwi! ****** Ni a ddychwelwn yn awr yn ol i ddinas B———

Eisteddai Gwen Parri wrth y piano, yn mharlwr ei mam. Edrychai fel rhywbeth haner—ysbrydoledig yn ei holl ysgogiadau; eisteddai ei phen urddasol ar wddf o'r fath brydferthaf, gan roddi ymddangosiad mawreddog a balchaidd i wynebpryd a fuasai'n anrhydedd i "lun a gwedd Elen gynt." Ymddangosai ei thalcen gyn deced ag eiddo baban; ei llygaid tywyllion, pelydrog, oeddynt fel pysgodlynoedd Hesbon, y rhai a dynerid gan amrantau sidanaidd hirion; chwyfiai ei gwallt yn gyrliau bywion o gylch ei gruddiau rhuddgochion a'i hysgwyddau marmoraidd; oni b'ai ei fod yn wallt brown tywyll, yn lle gwineu, buasem yn dweyd am dano fel y dywedodd Talhaiarn mor glws am Efa:

"Gwahaniad ei gwallt gwineu—yn lithrawg
Ar lathraidd ysgwyddau,
A'i fodrwyon clysion, clau,
Yn brinion ar ei bronau."

Yr oedd ganddi bwyntel blwm yn ei llaw, a gorwedda llen o bapyr o'i blaen, ar yr hwn y rhoddai nodau cerddorol yn awr ac eilwaith, ac weithiau byddai'n taro allweddau y piano, nes gwneyd bar neu ddau o fiwsig swynol. Daeth ei mam i'r ystafell, a gofynodd.

"Beth sydd genyt mewn llaw heddyw, ngeneth i?"

"Ceisio cyfansoddi cân—miwsig a geiriau—i'w canu