Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/73

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edrychai ei chwaer yn ei wyneb gyda syndod, tra y dyrchafai ochenaid drom o ddyfnder calon ei fam.

"O!" "beth fu'r achos i'n holl obeithion gael eu difa fel hyn mor llwyr a disymwth?"

"Fy ffolineb i fy hun, a dichell cyfeillion diwaelod!" "Llewelyn anwyl, beth ddaw o honot?"

"Oh, fy mrawd anwyl!" llefai'reneth. "Rhaid dy fod wedi cael cam garw gan rywun, neu ni chawsit byth mo dy droi allan!"

"Y mae genyt feddwl da iawn am danaf, Gwen," meddai Llewelyn; "ond y gwirionedd yw, na wnaeth neb gam â mi-y mae fy ninystr i'w briodoli i fy ynfydrwydd fy hun yn hollol!"

"Ond pa beth a wneist fy mab?" gofynai ei fam. "Ah! y mae arnaf gywilydd dweyd wrthych; a phenderfynais unwaith yr awn, yn hytrach na gorfod eich cyfarfod chwi, i rywle na welai neb byth mo honof; ac wn i ddim nad felly fuasai hi, oni b'ai i chwi fy ngweled! Y gwir yw, mam, mi a feddwais; ac nid yn unig hyny, ond mi a ymddygais yn fy meddwdod yn waeth na ffwl! Do' gwnaethum fy hun yn warth i'r holl Goleg—tynais gaddug o waradwydd am ben fy enw da—ac yn awr nid oes i mi ond dyoddef i ffyliaid y dref yma, a phob tref lle mae pobl yn fy adnabod, estyn bys ar fy ol, a gwaeddi, "Dacw'r llanc a giciwyd allan o'r coleg am feddwi!"

"Ond er fod meddwi yn beth drwg a gwarthus iawn, eto dylasai'r athrawon basio heibio am y tro."

"Ah! nid oes fodd gwneyd hyny—dyna'r ail waith i mi syrthio i'r unrhyw warth yn ystod y tair wythnos. Hwy a faddeuasant i mi am y trosedd cyntaf, ond buasai yn anghyson a'u hanrhydedd iddynt basio heibio yr ail. Heblaw hyny, dywedir wrthyf fy mod yn gwbl wallgof yn fy meddwdod."

"Oh! gwyn fyd na f'ai dim gwirod ar y ddaear!"

"Ië'n wir, mam, neu gwyn fyd na f'awn i yn medru ei gasâu yn lle ei garu!"

"Ond paham y meddwaist fy machgen?"

"Wel, a dweyd y gwir, yr wyf yn meddwl ddarfod i'r students osod cynllwyn i gael genyf wneyd hyny, o ran eiddigedd o herwydd fy mod i yn debyg o'u curo yn yr arholiad. Gwyddent fy ngwendid, a phwysasant arnaf i yfed i ormodedd."

"Oedd gan Walter law yn y cynllwyn?"

"Wni ddim yn iawn; ond yr oedd ynteu yn y swper, ac yn gwneyd ei oreu i gael genyf yfed. Os gwyddai ef