Holodd fi am helsman da; ac mi ddaliaf chwart y mynud yma y medraf neud y lle i ti'n helsman."
"Treia ditha, byth o'r fan 'ma. Mi gei ddigonedd o sgyrnogod gin i os gnei di. Glasiad o gwrw eto i Owen Robarts!"
"Diail a mina'—' mwya' soniff rhywun am y bwgan, 'gosan y byd y bydd o ato fo,' chwedal yr hen air, a thyna fo'r gŵr bynheddig ifanc yn pasio rwan. Dyna i ti geffyl hardd,'ngwas i. Beth 'ddyliet ti o ganlyn hwna ar ol llwynogod a sgyrnogod?"
"Campus!—campus! Tyr'dýf-mi rana'i tra bo ffyrling yn fy mhoced."
Y ddau ddyn a ymddyddanent fel hyn a'u gilydd oeddynt feddwon adnabyddus yn mhentref bychan P——. Caffai Owen Roberts ei fywioliaeth trwy fyned ar negesau i oruchwyliwr y Plas Newydd, yr hwn hefyd oedd yn dra hoff o ddiod. Galwedigaeth Wil Dafis oedd dilyn cŵn hela.
Y lle yr oeddynt ynddo yn awr, ydoedd dyfarndy'r pentref, lle yr ymgynullai diogwyr, meddwon, a hustingwyr, i drin materion y gymydogaeth a boddio eu chwantau anifeilaidd.
Y "gŵr byneddig" ieuanc ddygwyddodd fyned heibio, ac am yr hwn yr oeddynt yn ymddyddan, oedd ddyn ieuane tua phum troedfedd ac wyth modfedd o daldra, gydag ysgwyddau llydain, corph cryf drwyddo, gwyneb go lwyd, gwallt du cyrliog, a llygaid pur dduon. Ymwisgai yn y dull mwyaf boneddigaidd, a dangosai ei holl ysgogiadau ei fod yn gydnabyddus ag arferion mwyaf coethedig cymdeithas.
Ceisiai enill hoffder trigolion y lle trwy ddangos ei hun yn ŵr boneddig ieuanc haelionus.
Y mae'r darllenydd yn gydnabyddus âg ef cyn hyn. Yr oedd yn awr yn myned yn ei holl rwysg a'i ogoniant, ar gefn ei geffyl goreu, i ddinas B——. Nid bychan y sylw a dynai ar y ffordd, yn gystal ag ar hyd heolydd y dref.
Y mae dyn ieuanc arall, o edrychiad pur foneddigaidd ac urddasol yn cerdded yr heol yn awr, gyd rhol o bapyr yn ei law. Ymddengys fod y diweddaf wedi cael ei adnabod gan yr Ysgotyn dyeithr, o herwydd tynhaodd ffrwyn ei geffyl, safodd, a dywedodd,
Holo, Llewelyn Parri, chwi yw'r sawl yr oeddwn yn edrych am dano!" Cododd Llewelyn ei ben, ac edrychai fel wedi ei daro â syndod; ac atebodd,