"Dear me! pwy fuasai yn dysgwyl eich gweled yn y fan yma?"
"Ho, meddai'r llall, "yr wyf wedi dyfod i fyw yn bur agos yma—i'r Plas Newydd er's ychydig wythnosau. Gobeithio y cawn dreulio llawer awr ddifyr hefo'n gilydd."
"Yr ydych yn bur garedig; ond y mae genyf fi bethau eraill i feddwl am danynt yn awr, heblaw pleser. Boreu da i chwi!"
"'Rhoswch fynyd, Llewelyn; nid wyf wedi gorphen â chwi eto. Dowch i fewn i'r P
Arms am ychydig fynydau.""Nis gallaf; y mae pethau eraill yn galw am danaf."
"Ond y mae genyf beth pwysig i'w ddywedyd wrthych, a rhaid i chwi ddyfod am ychydig fynydau; ni chadwaf chwi am fwy na deng mynyd—neu chwarter awr i'r fan bellaf.
I fewn â Llewelyn gydag ef.
Tra y maent yn siarad a'u gilydd, dichon y dylem ddweyd pwy yw y dyn ieuanc dyeithr hwn. Nid yw neb llai nac amgen na hen gyfaill a chydysgolor Llewelyn Parri—Walter M'c Intosh.
Dyma'r tro cyntaf i'n harwr glywed na gweled dim yn ei gylch ar ol cael ei droi allan o'r coleg.
Un o'r pethau cyntaf a wnaeth ewythr Walter, ar ol i'w nai ddychwelyd o'r coleg yn llawn anrhydedd a gogoniant, oedd edrych am gartref cysurus mewn lle gwledig, lle y gallai gael llonyddwch oddiwrth drafferthion y dref am yr ychydig amser oedd ganddo i fyw, a sefydlu Walter mewn diogelwch a llawnder. Prynodd y Plas Newydd, yn Nghymru, yn agos i dref enedigol ein harwr. Yr oedd yn awr newydd ddyfod i drigo i'r Plas, efe a Walter.
Rhoddodd calon Llewelyn dro pan welodd ei hen gyfaill. Cofiodd yn y fan am yr amgylchiadau dan ba rai y diarddelwyd ef o'r coleg, a'r hwn yr ofnai oedd wedi cymeryd rhan yn ei ddwyn i'r cyflwr diraddiol y syrthiodd iddo. Penderfynodd ar y cyntaf beidio gwneyd cydnabyddiaeth yn y byd â Walter, a theimlai wrthwynebiad mawr i fyned gydag ef i'r P
Arms. Ond gan i'w hen gyfaill ddweyd fod ganddo rywbeth pwysig i ymddyddan yn gylch, cydsyniodd.Galwodd Walter ein harwr i gyfrif am edrych mor oeraidd at ei hen gyfaill, a gofynodd beth oedd yr achos. Dywedodd Llewelyn ei holl ddrwgdybiaeth yn ddigel, sef ei fod ef (Walter) wedi ymuno âg eraill i osod cynllwyn tuag at gael gan Llewelyn achosi hunan-ddiarddeliad o'r