Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i fyned yn mlaen yn yr un dull wnai Llewelyn. Aeth pobl y dref i ddechreu ei adnabod, nid yn ei gymeriad arferol, ond fel meddwyn.

Gwyddai Mrs. Parri o'r goreu pwy oedd wedi llwyddo i ddenu ei mab o ffyrdd sobrwydd y tro hwn, yr hyn a gryfhâi yn ei meddwl y drwgdybiaeth fod gan yr unrhyw un ran yn ei ddiraddio yn y Coleg. Credai mai un i'w ochelyd oedd Walter M'c Intosh, er ei holl foesgarwch ymddangosiadol.

Yn mhen enyd, cymerodd Mrs. Parri afael yn yr holl awdurdod ag oedd yn ei llaw fel rhïant, i dori'r cysylltiad peryglus hwn, rhwng Llewelyn a Walter. Siaradodd yn rymus yn erbyn yr hyn a ystyriai oedd yn prysur lusgo ei bachgen tua dinystr. Cyffrodd hyny dipyn ar dymher Llewelyn, ac aeth i ymddwyn at ei fam yn hollol wahanol i'w ymddygiadau ufuddgar, caruaidd, a pharchedig arferol.

Ond er fod Walter yn canfod y cyfnewidiad a gymerai le gyd â golwg ar Mrs. Parri, ac er ei fod yn ymwybodol o'i chasineb o hono, parhâi i fyned i'r tŷ yn rheolaidd. Yr oedd ei galon wedi ei sefydlu ar Gwen—ac ni's gallai holl oerfelgarwch ei mam ei gadw draw o'r tŷ.

Dechreuad gofidiau i Mrs. Parri oedd ymgysylltiad adnewyddol Llewelyn â Walter. Achlysurol oedd pob trosedd blaenorol o eiddo ein harwr; a pha bryd bynag y cwympai, fe fyddai cwymp un noson yn dwyn gyd âg ef edifeirwch misoedd. Ond yn awr, fe aeth i ddechreu gwneyd arferiad gwastadol o elyn ei ddedwyddwch ymrôdd i feddwi.

Aml iawn yr eisteddai ei chwaer i'w ddisgwyl gartref hyd haner nos—un—dau—heb denyn o dân yn fynych i'w chadw'n gynhes, ac heb ddim i'w difyru ond llyfr, yr hwn y ceisiai ei ddarllen; ond byddai ei meddwl yn ymwibio bob yn ail bum' mynyd, neu amlach, oddi wrth y llyfr at wrthddrych ei serch a'i phryder. Tybiai mai sŵn traed ei brawd oedd pob twrf oddi allan. Oh, mor falch fyddai wrth glywed cerddediad rhywun yn agosâu at y tŷ! ond oh, hefyd mor siomedig yr ymdeimlai wrth glywed hwnw yn myned yn mlaen yn lle troi at ddrws eu tŷ hwy! Pa bryd bynag y byddai'n sicr mai Llewelyn fyddai'n dyfod, hi a redai i'w gyfarfod at y drws mor groesawus a phe buasai'n dychwelyd o gyflawni'r neges fwyaf pwysig ac angenrheidiol. Nid oedd ymddygiad Llewelyn ati hi'n debyg i'r hyn yr arferai fod. Weithiau fe ysgubai heibio iddi yn sarug, efallai gyd â rheg distaw, gan ofyn i ba beth yr oedd y ffolog yn aros ar ei thraed i'w ddisgwyl ef