adref. Ond bryd arall fe ymddygai'n fwy teilwng o'r hen amser gynt—rhoddai gusan frysiog iddi, gan geisio atal ei wynt rhag iddi arogli'r ddiod a lyncasai; ac edrychai mor euog ac anhapus ag un troseddwr condemniedig. Yn ei adegau sobraf, perswadiai Gwen ef i fyned gyda hi i eistedd yn y parlwr am chwarter awr, a chymerai'r eneth fantais o'r adeg honno i geisio ymresymu âg ef, a phwyso ar ei feddwl y perygl mawr, a'r creulondeb o arwain bywyd felly, gan dori calon ei fam. Gollyngodd yr eneth dirion ffrydiau ddagrau lawer gwaith wrth geisio gwared ei brawd o afael distryw a gwarth. Weithiau, fe lonid ei meddwl â gobaith y llwyddai yn ei hymdrechion — byddai arwyddion o deimlad i'w gweled ar wynebpryd ei brawd—cyffesai ei fai ambell waith gyda dagrau poethion a chwerwon—addawai ddiwygio'n fuan, a bod eto y Llewelyn a gerid ac a berchid gynt. Ond ah! nid oedd byth yn cadw 'i addewid. Y dafarn oedd ei drigle'r dydd, ac yn fynych, y nos hefyd. Hofranai cwmwl du uwch ben yr hen dŷ. Gwisgai Mrs. Parri a Gwen wynebau trist, a cherddent o gwmpas gyd â chamrau afrosgo ac eiddil. Byddai arwyddion trallod i'w darllen hyd yn oed ar wynebau'r gweision a'r morwynion. Ni agorid byth mo'r hen biano hoff, ac ni chlywid sain cân a llawenydd yn treiddio trwy'r tŷ mwy na thrwy ddaeargell.
Oh!'r pangfeydd a ddryllient deimladau'r fam ofalus, wrth weled ei bachgen-ei hunig fachgen-yn sathru ei holl gynghorion a'i haddysgiadau dan ei draed-yn dibrisio ei dagrau a'i gweddïau-yn chwilfriwio y rhwymau oedd rhyngddo a'i gartref-ac ref-ac yn dilyn yn wallgof y cwmpeini ag oedd yn prysur dynu at golledigaeth, distryw, a gwarth! Pwy a all blymio cariad a phrofedigaeth mam dan y cyfryw amgylchiadau?
Un bore, cyn i Lewelyn fyned allan, galwodd Mrs. Parri arno i'r parlwr. Gofynodd iddo'n ddifrifol, gan sefydlu ei llygaid ar yr eiddo ef, a gafael dyn yn ei fraich, "Wel, Llewelyn! ai penderfynu gyru dy fam i'r bedd wedi tori ei chalon yr wyt?"
Treiddiodd saeth o euogrwydd trwy fynwes y llanc. Ni feiddiai godi ei olygon i fynu yn hwy, a buasai'n dymuno suddo trwy'r llawr o olwg ei fam.
"Ond, fy mab," ychwanegai hi, " y mae genyf un cynllun, yr hwn, os cydsyni di âg ef, a allai dy waredu rhag distryw tymhorol a thragywyddol, a'th fam a'th chwaer, beddau anamserol."
"Beth yw?" gofynai'r llanc yn ddisymwth.
{{nop}]