Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/83

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a threiddiai ing o edifeirwch trwy ei fynwes bob tro yr adgofiai am ei ynfydrwydd.

Cafodd y cyfnewidiad dedwydd yma effaith ddymunol ar Mrs. Parri a Gwen. Ymddangosai'r fam yn dawelach a dedwyddach: ond yr oedd siomedigaethau ei bywyd wedi peri iddi hi beidio edrych ar yr un pleser mwyach gyda gormod o ymddiried. Daeth yr hen wrid i fochau Gwen. Nis gallai y rhosyn a'r lili ragori ar ei phrydferthwch. Aeth Llewelyn i'w galw'n Lili Wen, wrth ei gweled mor dlos; a gwnaeth ddau bennill iddi un bore, wrth ei bedyddio â'r enw newydd, y rhai oeddynt yn debyg i hyn:

"Mae brenines ar y blodeu,
Honno yw y lili wen;
O mor hardd fydd yn y boreu-
Coron wlithog ar ei phen;
Blodeu fyrdd o'i chylch yn gwenu,
Pawb yn syllu ar ei gwedd;
Hithau iddynt yn pengrymu,
Mewn lledneisrwydd, parch a hedd.

Tithau ydwyt, Gweno hawddgar,
Fel y lili hardd mewn bri;
Tecach na gwyryfon daear,
A rhagorach ydwyt ti,
Lili hardd yn ngardd dynoliaeth,
O dan wlith a bendith nen;
Pawb gydnebydd dy ragoriaeth,
Ac a'th alwant "Lili Wen."

Yr oedd yr effaith a gafodd bywyd sobr Llewelyn ar ei chwaer yn hynod a dyddorol i sylwi arno. Symudwyd ymaith yn llwyr y baich fu yn pwyso ar ei meddwl am fisoedd. Dechreuodd neidio a phrancio o gwmpas mor heinyf ag oenig; yr oedd hi yn hoff o bawb a phob peth o'i o'i hamgylch, ac ymddangosai pawb a phob peth yn hoff o honi hithau. Edrychai'r ieir a'r gwyddau-y gwartheg ar y cae a'r defaid ar y bryn—megys mewn serch arni. Deuai'r hen Fodlau-y fuwch yn fynych adref, er mawr ddifyrwch a syndod y laethferch, gyda 'i phen a'i chyrn wedi eu hurddo a garlantau o ddail a blodau. Pan ellid dal yr wyn bach, urddid hwythau yr un modd; ac ni ddiangai hyd yn oed y moch heb ryw arddangosiad o'i ffafr. Carlamai'r ddau geffyl hefyd, o dani hi a Llewelyn, yn eu hynt o gwmpas yr ardal, fel pe buasent yn falch cael dau mor brydferth a charuaidd i'w marchogaeth.