Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X.

Y MAE'n annichonadwy son nac ysgrifenu am braidd ddim heb sylwi peth mor fyr yw parhad pob cysur daearol. Fuasai ddim yn werth braidd ceisio byw'n rhinweddol er mwyn cyrhaedd dedwyddwch yn y byd hwn, oni b'ai fod y dedwyddwch cysylltiedig â bywyd rhinweddol yn hyfforddio math o ragbrawf o ddedwyddwch tragywyddol mewn gwlad na ddaw yr un gofid o'i mewn. Ond eto, y mae byw'n rhinweddol yn sicr o dalu am dano 'i hun, hyd yn oed yn y byd hwn.

Dechreuai cwmwl newydd grogi uwch ben Mrs. Parri a'i phlant. Anfonodd angeu rai o'i genadon i ddwyn ar gof iddynt nad oedd ef ei hun yn mhell iawn, ac y deuai i ymweled â'r teulu cyn bo hir. Daeth afiechyd i gyfansoddiad Mrs. Parri. Nis gallai awelon iach y wlad effeithio yr un cyfnewidiad er gwell ynddi hi-suddai'n raddol yn is, is, nes llwyr argyhoeddi pawb o'i chwmpas nad oedd adeg ei hymddatodiad yn mhell. Gwyddai hithau hyny hefyd; ond ni chlywyd hi'n grwgnach cymaint ag unwaith. Nis gallai symud oddiar y sofa trwy'r dydd, a rhaid oedd ei chario i'w gwely y nos. Cysgai Gwen—pe buasai yn cysgu hefyd yn yr un ystafell a'i mam, er mwyn bod yn agos ati i weini i'w hanghenion yn oriau pruddglwyfus y cyfnos. Cysegrodd Llewelyn ei holl amser at gysuro ei chalon a thawelu ei meddwl. Darllenai iddi ei hoff benodau o'r hen Fibl teuluaidd; cariai hi yn ei freichiau o gwmpas y tŷ, gan ei dal yn y ffenestr, weithiau, fel y gallai fwynhau yr awel beraroglaidd a ddeuai o'r ardd.

Aeth Llewelyn yn bruddglwyfaidd, yn enwedig pan allan o olwg ei fam, o herwydd ymdrechai ei oreu i ymddangos mor fywiog ag oedd modd yn ei gwydd hi. Ond fe sylwai pawb arall fod rhywbeth tost yn pwyso ar ei feddwl. Gwyddai o'r goreu fod y pryder a deimlodd ei fam yn ei gylch ef, yn un o brif achosion ei hafiechyd; a theimlai faich o euogrwydd, fel mynydd o blwm, yn pwyso ar ei feddwl a'i gydwybod. Ond ymdrechai wneyd iawn mawr am ei holl gamymddygiadau blaenorol, trwy dalu y sylw a'r gofal manylaf i'w unig rïant yn yr adeg hon.

Parhau i wanychu yr oedd Mrs. Parri. Nid oedd modd ei pherswadio fod gobaith iddi wella byth; ac yn wir, ni chwennychai wella, ond yn unig pan gofiai am Llewelyn. Braidd na fuasai'n gofyn i'w Thad nefol arbed ei bywyd,