Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/92

Gwirwyd y dudalen hon

dith y gall ef a'i eiddo fod i'r byd os bydd iddo anghofio cynghorion y ddynes dduwiol honno! Onid wyt braidd yn crynu mewn pryder, ddarllenydd, wrth fynod yn mlaen, a dyfalu pa fath ddyn y try Llewelyn allan ar ol dyfod i'w oed? Cei wybod cyn bo hir. Os oes genyt ryw fath o ymddiried yn niogelwch yr egwyddor o fyw'n gymedrol, yn awr fydd yr adeg i ti ddwyn dy opiniwn i'r prawf. Yr wyt yn myned i gael golwg ar ddyn ieuanc, wedi cael ei ddwyn i fyny gyda'r gofal mwyaf, gan un o'r mamau goreu a duwiolaf—un wedi cael perffaith brawf yn moreu ei oes o dwyll y byd a drygedd meddwdod—un yn gwybod ddarfod i'w hoffder ef o'r ddïod fod yn un achos i yru ei fam i'r bedd—un a wnaeth ammod o'r fath ddifrifolaf wrth erchwyn gwely ei anwyl fam na welid byth mono ef yn feddw drachefn—un yn y mwynad o bob manteision daearol, a chanddo chwaer braidd rhy rhy dda i'r ddaear hon, i'w charu a chael ei garu ganddi—cei olwg ar ddyn yn meddu yr holl fanteision hyn yn ymollwng ar fôr y byd yn nghwch cymedroldeb—cei wybod a oes ymddiried i'w roi yn yr egwyddor honno ai peidio. ****** Un prydnawn oer yn mis Rhagfyr, fe eisteddai dau ddyn ieuanc yn mharlwr y Castle Hotel. Dygwyd y ddau i fyny yn mysg y gymdeithas mwyaf boneddigaidd ag a allasai tref Gymreig o fath B{{bar|3} ei hyfforddio. Cawsant addysg dda hefyd; ac ystyrid hwy yn awr yn ddau ŵr ieuanc parchus. Y mae'r darllenydd wedi clywed enw un o honynt o'r blaen—William Vaughan, neu fel y gelwid ef gan ei rieni a'i gyfeillion agosaf—Bili Vaughan. Yr oedd Bili'n dra hoff o "sbri," fel y gŵyr y darllenydd; ond eto, nid oedd ef cyn waethed "yn y bôn” a rhai oi gyfeillion. Llanc go ddifeddwl oedd; ond credwn yn gryf fod ganddo egwyddor led lew, pe buasai wedi cael chwareu teg gan esiamplau drwg.

Y mae'n ddrwg genym nad oedd ei gyfaill y tro hwn cystal dyn ag ef. Un wedi ymwerthu i wasanaethu'r cnawd, ei wyniau a'i chwantau oedd hwn. Meddai eithaf ymddangosiad; ond calon ddrwg ofnadwy, oedd dan groen ei fynwes. Anhawdd fuasai cyfarfod â dyn harddach mewn rhai pethau; ond gresyn fod rhywbeth wedi gadael lliw cochddu ar ei drwyn, gwahanol i'r lliw hardd fydd yn cael ei adael gan awelon iach y boreu ar wyneb dyn sobr. Gellid tybied i'w lygaid fod yn leision unwaith; ond yn awr, y maent wedi troi i fath o liw llwyd. Wrth edrych ar ei law hefyd, tra yn estyn y gwydraid brandy yna at ei safn,