Ac erbyn y nos, yr oedd prif feddwon y dref wedi ymgasglu o'i gwmpas, a phawb yn rafio mewn afiaeth.
****** Disgynai'r gwlaw'n llifogydd—codai'r gwynt yn groch—ac yr oedd y noson yn ddu ac yn dywell.
Eisteddai dynes druan wrth ochr bwrdd, oddi ar ba un yr oedd newydd roddi'r tamaid diweddaf o fara i'r plant, y rhai a edrychent megis wedi haner llewygu. Ehedodd y wreichionen olaf o dân oddi ar yr aelwyd, ac ymgrapiai'r plant o gwmpas y lludw, tra yr eisteddai'r baban ieuengaf, braidd wedi fferu, ar lîn ei fam.
Yr oedd y ganwyll ddimeu ddiweddaf yn y tŷ yn tynu at ddiwedd ei thymhor; a theyrnasai distawrwydd a phruddglwyfedd angau yn y tŷ.
Nid ymddangosai fod y fam yn cymeryd yr un sylw o'r plant, ond cauai ei llygaid, pwysai ei phen ar ei llaw, gyd a'i phenelin yn gorphwys ar y bwrdd, a suddai ei meddwl mewn adgof o'r pethau a fuont o'r blaen.
Portreadai o flaen llygaid ei meddwl ddyddiau dedwyddion ei hieuenctid—galwai i gof ei bywiogrwydd hoenus, ei chyfeillion a'i chyfeillesau llawen, a'i hymddiried trylwyr yn mhawb a phob peth. Cofiai am dynerwch ei gŵr tuag ati, pan ddechreuasant fyw hefo 'u gilydd; a chydmarai'r cyfan gyda 'i chyflwr torcalonus presennol.
Yr oedd yn awr yn yr wythfed flwyddyn o'i bywyd priodasol, ac yn y seithfed flwyddyn o'i hatebolrwydd pwysig fel mam. Aeth yr wyth mlynedd ymaith yn ei golwg, fel breuddwyd pan ddihuno un; a chyda hwy fe ddarfyddodd adlewyrchiadau diweddaf gobaith o fewn ei mynwes. Teimlai fod y wermod yn cael ei ychwanegu yn nghwpan ei bywyd yn barhaus, ac edrychai ar y dyfodiant gydag ias o arswyd.
Pa beth fu yr achos o hyn? Pa beth hefyd, heblaw yr hyn fu yn achos o braidd bob annedwyddwch yn mysg dynoliaeth wareiddiedig? MEDDWDOD. Cymerodd y cawr yma afael yn ei gŵr, a llusgai ef tua cholledigaeth gyda grymusder anorchfygadwy. Rhoddodd ei wraig i fyny bob gobaith am ei weled yn dychwelyd i'w hen lwybrau rhinweddol, a phrofi ei hunan byth mwyach yn ŵr gofalus ac yn dad tyner—tybiai—a thybiai'n gywir hefyd ei fod wedi myned yn rhy bell yn ffordd dystryw i allu dychwelyd.
Ond hi a gafodd afael ar obaith nad yw'n darfod gyda gobeithion daearol—parodd siomedigaethau'r bywyd hwn i'w meddwl chwilio am bethau ansiomadwy—pethau tra-