thybiodd iddynt fod yn hir ar goll, ac am bynny golli eu cyrn o honynt. A thŷ a oedd ymhen y fforest i'r geifr, a thrwy fedr a rhedeg efe a gymhellodd yr ewigod, ynghyd â'r geifr, i fewn. A daeth Peredur drachefn at ei fam.
"Fy mam," ebe ef, "peth rhyfedd a welais yn y coed,—dwy o'th eifr wedi mynd yn wyllt, ac wedi colli eu cyrn gan faint yr amser y buont ar goll dan y coed. Ac ni chafodd dyn drafferth mwy nag a gefais i yn eu gyrru i fewn."
Ac ar hynny cyfodi a wnaeth pawb a dyfod i edrych, a phan welsant yr ewigod rhyfeddu'n fawr a wnaethant.
Ac un diwrnod hwy a welent dri marchog yn dyfod ar hyd marchog-ffordd wrth ystlys y fforest. A'r tri marchog oedd,—Gwalchmai fab Gwyar, a Geneir Gwystyl, ac Owain fab Uryen. Ac Owain oedd yn ymlid ar ol y marchog a ranasai'r afalau yn llys Arthur.
"Fy mam," ebe Peredur, "beth yw y rhai acw?"
"Angylion ydynt, fy mab," ebe hithau. 'Dyma fy ffydd," ebe Peredur, "yr af yn angel gyda hwy."
Ac i'r ffordd i'w cyfarfod y daeth Peredur.
"Dywed, enaid, a welaist ti farchog yn mynd heibio heddyw neu ddoe?"
"Ni wn," ebe yntau, "beth yw marchog "
"Y cyfryw beth wyf fi," ebe Owain.
"Pe dywedit ti i mi y peth a ofynnaf i ti," ebe Peredur, "minnau a ddywedwn i tithau yr hyn a ofynni dithau."