ydoedd felly, wele y forwyn ddu yn dyfod i mewn, ac yn dywedyd wrth Peredur,—
"Ni fydd croesaw Duw i ti. Mynychach y gwnai ddrwg na da."
"Beth a ofynni di i mi, y forwyn ddu?" ebe Peredur.
"Di—golledu o honot yr ymherodres o'i bwrdd, ac ni fynnai hi hynny er ei hymherodraeth. A'r wedd y ceffi y bwrdd yn ol yw myned i Gaer Ysbidinongyl. Y mae yno ŵr du yn difetha llawer o gyfoeth yr ymherodres. A lladd hwnnw, a thi a geffi y bwrdd. Ac os ai di yno ni ddeui yn fyw drachefn."
"A fyddi di arweinydd i mi yno?" ebe Peredur.
"Mi a fynegaf y ffordd i ti yno," ebe hi. Ac ef a ddaeth hyd yng Nghaer Ysbidinongyl. Aca ymladdodd â'r gwr du; a'r gŵr du a archodd nawdd Peredur. "Mi a roddaf nawdd i ti,—par fod y bwrdd yn y lle yr oedd pan ddaethum i i'r neuadd."
Ac yna y daeth y forwyn ddu i mewn, ac a ddywedodd wrtho,—
"Melldith Duw i ti yn lle dy lafur, am adael y gormeswr yn fyw sydd yn diffeithio cyfoeth yr ymherodres."
"Mi a addewais," ebe Peredur, "ei fywyd iddo, os perai ddychwelyd y bwrdd."
"Nid ydyw y bwrdd yn y lle cyntaf y cefaist ef. Dos drachefn a lladd ef."
A myned a wnaeth Peredur a lladd y gŵr du.
A phan ddaeth i'r llys yr oedd y forwyn ddu yn y llys.