fydrwydd wnai i ti farchogaeth mor gyflym, a lluchio dwfr o'r Rhyd am ben Arthur a'r esgob cysegredig a'u cynghorwyr, nes oeddynt cyn wlypet a phe tynnid hwy o'r afon?"
"Minnau a'u cymeraf yn lle cyngor," ebai, a throdd ben ei farch tua ei fyddin. "Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy oedd y marchog gynneu?"
"Y gŵr ieuanc ffraethaf a doethaf yn y deyrnas hon,—Adaon fab Taliesin."
"Pwy oedd y gŵr a darawodd ei farch?"
"Llanc traws—fonheddig,—Elphin fab Gwyddno."
Ac yna y dywedodd y gŵr balch bonheddig, ac ymadrodd llithrig eon ganddo, fod yn rhyfedd i lu gymaint a hwnnw gynnull mewn lle mor gyfyng a hwn, a'i fod yn rhyfeddach ganddo ei fod yno yr awr honno, ac wedi addaw bod hanner dydd ym mrwydr Baddon yn ymladd âg Osa Gyllellfawr,—
"A dewis di a gerddi ai ni cherddi, myfi a gerddaf."
"Gwir a ddywedi," ebe Arthur, "a cherddwn ninnau i gyd."
"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy yw y gŵr a ddywedai mor hyf wrth Arthur ag y dywedai'r gŵr gwineu?"
"Gŵr a all ddywedyd cyn eofned ag y mynna wrtho,—Caradog Feichfras fab Llyr, ei gynghorwr a'i gefnder."
Yna cymerodd Iddog Rhonabwy wrth ei ysgil, a chychwynnodd y llu mawr hwnnw, pob byddin yn ei threfn, tua Chefn Digoll. Ac wedi eu dyfod hyd yng nghanol y Rhyd ar yr Hafren, troi a wnaeth Iddog ben ei farch drach ei gefn, ac edrych a wnaeth Rhonabwy ar Ddyffryn Hafren, a gwelai