gwaedd, Gwrthmwl Wledig, Cawrdaf fab Caradawg Feichfras, Gildas fab Caw, Cadyriaith fab Saidi, a llawer o wyr Norway a Denmarc, a llawer o wyr Groeg gyda hwy, a digon o lu a ddaeth i'r cyngor hwnnw.
"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy oedd y gwas gwineu a ddaeth ato gynneu?"
"Rhun fab Maelgwn Gwynedd, gŵr ag y mae yn fraint i bawb ymgynghori âg ef."
"Am ba achos y daeth gŵr cyn ieuenged a Chadyrieith fab Saidi i gyngor gwŷr cyfurdd a'r rhai acw?"
"Wrth nad oedd ym Mhrydain ŵr doethach ei gyngor nag ef."
Ac ar hynny, wele feirdd yn dod i ddatgan cerdd i Arthur, ac nid oedd dyn a adnabai y gerdd honno ond Cadyrieith ei hun, ond ei bod yn gerdd o foliant i Arthur.
Ac ar hynny, wele bedair asen ar hugain ddygai bynnau o aur ac arian yn dyfod, a gŵr lluddedig a blin gyda phob un o honynt yn dwyn teyrnged i Arthur o Ynysoedd Groeg. Yna yr archodd Cadyrieith fab Saidi wneyd heddwch âg Ossa Gyllellfawr hyd ymhen pythefnos a mis, a rhoddi yr asynod a'r hyn oedd arnynt yn deyrnged i'r beirdd yn lle gwobr ymaros, ac ar derfyn yr heddwch talu iddynt am eu canu. Ac ar hynny y cytunwyd.
"Rhonabwy," ebe Iddog, "onid cam fai gwarafun gwas ieuanc a roddai gyngor cyn ddoethed a hwn, fynd i gyngor ei arglwydd?"
Ac yna y cyfododd Cai, ac y dywedodd,—
"Pwy bynnag a fynno ganlyn Arthur, bydded heno yng Nghernyw gydag ef. A'r