Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

à'r ddeudroed y bwyd sydd yn y gôd,' a dweyd, 'Digon a roddwyd yma.' A minnau a baraf iddo fyned a sangu y bwyd yn y gôd. A phan el ef, tro dithau y god oni el ef dros ei ben i'r god, ac yna taro gwlwm ar gareiau y gôd. A bydded corn canu da am dy wddf. A phan fo ef yn rhwymedig yn y gôd, dod dithau lef ar dy gorn, a bydded hyn yn arwydd rhyngot a'th farchogion. Pan glywont hwy lef dy gorn, disgynnent hwythau at y llys."

"Arglwydd," ebe Gwawl, gweddus fyddai i mi gael ateb am a ofynnais."

"Cymaint ag a ofynnaist," ebe Pwyll, ar sydd yn fy meddiant i, ti a'i ceffi."

"Enaid," ebe hithau, Rhianon, am y wledd a'r danteithion sydd yma, hyn a roddais i wyr Dyfed, a'r teulu a'r niferoedd y sydd yma, y rhai hyn ni adawaf fi eu rhoddi i neb. Blwyddyn i heno y bydd gwledd ddarparedig yn y llys hwn i tithau, enaid, a deuaf yn wraig i ti."

A Gwawl a gerddodd tua'i wlad. Pwyll yntau a ddaeth i Ddyfed.

A'r flwyddyn honno a dreuliodd pawb ohonynt hyd amser y wledd oedd yn llys Hefeydd Hen. Gwawl fab Clud a ddaeth tua'r wledd oedd ddarparedig iddo, daeth i'r llys, a llawen Fel y rhoddwyd Gwawl mewn sach fuwyd wrtho. Pwyll Pen Annwn yntau a ddaeth i'r berllan gyda'i farchogion,— ef yn ganfed fel y gorchymynasai Rhianon iddo, a'r god ganddo. Gwisgoedd bratiog trymion roddodd Pwyll am dano, a llopanau am ei draed. A phan wybu eu bod ar ddechreu y gyfeddach wedi bwyta, aeth rhagddo i'r neuadd. Ac wedi dyfod i gyntedd y neuadd, cyfarch gwell a wnaeth i Wawl fab Clud, a'i gydymdeithion o wŷr a gwragedd.

"Duw a fyddo dda wrthyt," ebe Gwawl, "a chroesaw i ti"