Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/29

Gwirwyd y dudalen hon

gŵr a garent gymaint a'u harglwydd, a'u brawdmaeth, yn ddi—etifedd. A dyfynnu y wlad atynt a wnaethant. A'r lle y daethant iddo oedd Preseleu, yn Nyfed.

"Arglwydd," ebe hwy, "ein hofn ni yw na bydd i ti etifedd o'r wraig sydd gyda thi. Ac wrth hynny cymer wraig arall, y bo etifedd i ti ohoni. Nid byth," ebe hwy, "y parhei di; a phe caret ti fod felly, nis dioddefwn ni gennyt."

"Ie," ebe Pwyll, "nid hir eto yr ydym ynghyd; a llawer damwain a ddichon fod. Oedwch hyn â mi hyd ymhen y flwyddyn. A blwyddyn i'r amser hwn, down ynghyd; ac wrth eich cyngor y byddaf."

Fel y collwyd baban yn y nosPennwyd felly. Cyn pen y cwbl o'r flwyddyn, mab a aned iddo. Ac yn Arberth y ganed. A'r nos y ganed ef dygwyd gwragedd i wylied y mab a'i fam. A beth wnaeth y gwragedd ond cysgu, a mam y mab, Rhianon. Ac yr oedd chwech o wragedd yn yr ystafell. Gwylio a wnaethant yn wir dalm o'r nos, ond cyn hanner nos cysgu a wnaeth pob un ohonynt, a thua'r plygain deffro. A phan ddeffroasant, edrychasant ar y lle y dodasant y mab,—ac nid oedd dim ohono

Och!" ebe un o'r gwragedd, "fe golles y mab." Ie," ebe un arall, "a dial bychan fuasai ein llosgi ni, neu ein dienyddio, am golli y mab." "A oes," ebe un o'r gwragedd, gyngor yn y byd inni?

Oes," ebe un arall, "mi a wn gyngor da." "Beth yw hynny ?" ebe hwy.

"Y mae yma ast," ebe hi, a chenawon ganddi. Lladdwn rai o'r cenawon ac irwn wyneb Rhianon â'r gwaed, a'i dwylaw; a bwriwn yr esgyrn ger ei bron. A