Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

luoedd yn ei longau, a Bendigaid Fran a'i luoedd yntau ar hyd y tir.

Yn Aberffraw, dechreu y wledd ac eistedd a wnaethant. Ac fel hyn yr eisteddasant,—Brenin Ynys y Cedyrn, a Manawyddan fab Llyr ar un tu, a Matholwch ar y tu arall, a Branwen ferch Llyr gydag ef. Nid mewn tŷ yr oeddynt, ond mewn pebyll, yr oedd Bendigaid Fran yn rhy fawr i'r un tŷ ei gynnwys.

Dilyn y gyfeddach a wnaethant ag ymddiddan. A phan welsant fod yn well iddynt gymryd hun na dilyn y gyfeddach, i gysgu yr aethant.

Fel y priododd Branwen A thrannoeth cyfodi a wnaeth pawb o nifer y llys, a'r swyddwyr a ddechreuasant drefnu am raniad y meirch â'r gweision, a'u rhannu a wnaethant ymhob cyfair hyd y môr. Ac ar hynny, ddyddgwaith, wele Efnisien, y gŵr anhangnefeddus y dywedasom ni uchod, yn dyfod i lety meirch Matholwch, a gofyn a wnaeth pwy oedd biau y meirch.

"Meirch Matholwch, brenin Iwerddon, yw y rhai hyn," ebe hwy.

"Beth a wnant hwy yma?" ebe ef.

"Yma y mae brenin Iwerddon,—priododd Franwen dy chwaer, a'i feirch ef yw y rhai hyn."

"Ai felly y gwnaethant â morwyn gystal a honno, ac yn chwaer i minnau? Ei rhoddi heb fy nghennad i? Ni allent hwy roddi dirmyg mwy arnaf na hyn." ebe ef.

Ac yn hynny gwanodd dan y meirch, a thorrodd eu gweflau wrth eu dannedd, a'u clustiau wrth eu pennau, a'u rhawn wrth eu cefn. A'r lle ni chai Fel yr hauwyd drwg graff ar yr amrantau, y torrai hwynt hyd at yr asgwrn. A gwnaeth anffurf ar y meirch felly, hyd nad oeddynt o ddim defnydd.