Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Manawyddan Fab Llyr.

—————♦♦—————

DYMA Y DRYDEDD GAINC O'R MABINOGI.

WEDI darfod i'r seith-wŷr ddywedasom ni uchod gladdu pen Bendigaid Fran yn y Gwynfryn, yn Llundain, a'i wyneb ar Ffrainc, edrych a wnaeth Manawyddan ar dref Llundain ac ar ei gymdeithion, a dodi ochenaid fawr, a chymryd dirfawr alar a hiraeth ynddo.

Fel y galarodd Manawyddan "O Dduw holl-gyfoethog, gwae fi!" ebe ef, "nid oes neb heb le iddo heno namyn mi."

Arglwydd," ebe Pryderi, "na fydded gyn drymed gennyt â hynny. Dy gefnder sydd frenin Ynys y Cedyrn," ebe ef. "Er ei fod yn gwneud cam â thi, buost ti hawliwr tir a daear erioed,—trydydd lleddf unben wyt."

"Ie," ebe ef, er mai cefnder i mi yw y gŵr hwnnw, go athrist yw gennyf weled neb yn lle Bendigaid Fran, fy mrawd, ac ni allaf fod yn llawen yn yr unty ag ef."

A wnei dithau gyngor arall?" ebe Pryderi.

"Rhaid i mi wrth gyngor," ebe ef, "pa gyngor yw hwnnw?

"Saith cantref adawyd i mi," ebe Pryderi, "a Rhianon fy mam sydd yno. Mi a roddaf iti honno, a meddiant y saith gantref gyda hi; ac er na bai iti o frenhiwiaeth ond y saith cantref hynny, nid oes well saith cantref na hwy. Ciefa, ferch Gwyn Gloew, yw fy ngwraig innau. Ac er