Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/94

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ie," ebe hithau, "pa ddelw y gellir dy ladd di?"

"Gwneuthur enaint im ar lan afon; a gwneuthur cromglwyd uwchben y gerwyn, a'i thoi yn dda ac yn ddiddos wedi hynny. A dwyn bwch," ebe ef, a'i ddodi gerllaw y gerwyn, a dodi o honof finnau y naill droed ar gefn y bwch, a'r llall ar ymyl y gerwyn. Pwy bynnag a'm tarawai i felly a barai fy angau."

"Ie," ebe hithau, " diolchaf i Dduw hynny. Gellir dianc rhag hynny yn hawdd."

Nid cynt nag y cafodd hi yr ymadrodd nag y danfonodd at Gronw Pebyr. Gronw a lafuriodd waith y waew, a'r un dydd ymhen y flwyddyn y bu barod. A'r dydd hwnnw y parodd ef i Flodeuwedd wybod hynny.

"Arglwydd," ebe hi, meddwl yr wyf pa ddelw y gall fod yn wir a ddywedaist di gynt wrthyf fi. Ac a ddanghosi di i mi pa ffurf y safit ti ar ymyl y gerwyn a'r bwch, os paraf fi yr enaint?

"Danghosaf," ebe ef.

Hithau a anfonodd at Ronw, ac a archodd iddo fod yng nghysgod y bryn a elwir yn awr Bryn Cyfergyr, yng nglan afon Gynfael.

A hi a barodd gynnull a ellid gael o eifr yn y cantref, a'u dwyn i'r parth draw i'r afon, gyfer—wyneb á Bryn Cyfergyr.

A thrannoeth hi a ddywedodd,—

"Arglwydd," ebe hi, "mi a berais gyweirio y glwyd a'r enaint,— maent yn barod."

"Ie," ebe ef, awn i'w hedrych yn llawen".

Hwy a ddaethant drannoeth i edrych yr enaint.

"Ti a ei i'r enaint, arglwydd?" ebe hi.

Af yn llawen," ebe ef. Ac efe a aeth i'r enaint, ac ymeneinio a wnaeth.

Arglwydd," ebe hi, "dyma'r anifeiliaid a ddywedaist di fod bwch ynddynt."