Tudalen:Madam Wen.djvu/100

Gwirwyd y dudalen hon

trwy ei wisg, mewn dillad o eiddo Siôn Ifan. Yr oedd yr hen dafarnwr ei hun yn fawr ei rodres ynghylch yr helynt, ond nid oedd o un diben holi'r siryf. Eisteddai'n ddistaw yn y gornel, fel dyn wedi ei syfrdanu, gan sibrwd yn awr ac yn y man i'r simdde fawr," Duw'n gwaredo ni!"

Bu yno deirawr cyn teimlo'n ddigon cryf i ddychwelyd i Gymunod. Ac yn y cyfamser yr oedd yr yswain wedi derbyn ymwelydd arall i'w dŷ, na wyddai neb ond yr yswain ei hun o ba le, neb amgen na'r hen ŵr y soniasai Madam Wen amdano wrth Twm Pen y Bont.

IX.

YR HEN WR O'R PARCIAU

WEDI hanner awr o gymdeithas yr hen ŵr o'r Parciau, daeth Morys i ddeall ei fod yn bur fethiantus, ac mor hynod drwm ei glyw fel mai blinder oedd ceisio ymddiddan llawer ag ef. Ac yn ôl pob arwydd teimlai yr hen ŵr ei hun mai blinder i arall oedd efe, ac ni ddymunai ddim yn fwy na chael llonydd, ac am hynny ni chymerai yn angharedig ar yr yswain wrth ei weled yn eistedd mewn distawrwydd, a'r ddau yn disgwyl y siryf yn ôl o'i hynt ysbiol.

Cyn hir aeth yr yswain i feddwl bod neges y siryf yn ei gadw yn hwy nag y dylasai, ac wrth weled oriau yn treiglo aeth i deimlo'n bryderus. Bychan a feddyliodd y gallasai'r "hen ŵr," pe dewisai, daflu golau ar achos yr oediad.

O'r diwedd, wedi hir ddisgwyl, dychwelodd y gŵr dieithr, ond gyda llai o fywiogrwydd yn ei ysbryd a mwy o ddifrifwch yn ei wedd na phan gychwynnodd i'w daith. Yr oedd yn amlwg nad oedd popeth yn dda, ond gadawodd yr yswain hamdden iddo i adrodd ei helynt, os dymunai, yn ei amser ei hun.