neu ddwy yn yr un cyfeiriad, ac nid oes dim annymunol wedi digwydd i mi."
Ie! Ond! Ond fu hi ddim fel hyn arnoch yn siwr!"
Rhyfedd na soniwyd gair am y lladron drwy gydol yr ymddiddan. Y rheswm, mae'n debyg, oedd bod y siryf wedi ei daflu oddi ar echel ymresymiad. Ni soniodd air y noson honno am y fintai na pha fodd i'w herlid a'i dal. Yr oedd yn amlwg mai un drychfeddwl yn unig a adawsid iddo, ac mai dyna oedd hwnnw, ei fod ef, Siryf Môn am y flwyddyn, wedi dyfod i wrthdrawiad â rhyw bwerau ellyllaidd wrth amcanu gwneud ei ran fel ceidwad hedd y sir, ac mai'r peth doethaf y medrai ei wneud yn awr fyddai encilio mor ddidwrw ac mor fuan ag y byddai modd rhag digwydd a fyddai lawer gwaeth iddo.
Yr oedd gwell trefn ar ei nerfau drannoeth, a mwy o dawelwch yn ei fynwes ar ôl cael noson o gwsg. Ond nid oedd wedi newid ei farn am natur yr anturiaeth yr aethai trwyddi y noson cynt, ac nid oedd wedi newid ei feddwl o berthynas i'r hyn y bwriadai ei wneud. Daethai i'r casgliad pendant nad oedd wiw meddwl ymyrryd ymhellach â'r dylanwadau rhyfedd oedd yn llywyddu'r ogof, a phenderfynodd yrru adroddiad i ddywedyd bod pethau'n dawel yn ardal y llynnoedd, ac nad oedd yno bellach unrhyw ladron i'w dal.
Am yr hen ŵr o'r Parciau, ystyriai ef na byddai yn ddiogel iddo yntau ymadael nes gweled cefn gŵr y llywodraeth a'i lu arfog. Am hynny aros yng Nghymunod a wnaeth, a chadw yn ei gornel glyd.
Triniwyd llawer o faterion rhwng y ddau yswain yn ystod yr oriau y buont gyda'i gilydd. Ac ymhlith pethau eraill soniwyd llawer am Madam Wen a'i chymeriad a'i champau. Methai'r gŵr dieithr deall pa fodd y medrai'r yswain ieuanc ysmalio wrth sôn am berson mor beryglus. Ond felly y mynnai hwnnw. A dyna oedd ryfeddaf—nid oedd ganddo